Sut mae Prif Weinidog Cymru yn cael ei enwebu?

Cyhoeddwyd 12/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/02/2024   |   Amser darllen munudau

Ydych chi’n chwilio am y wybodaeth ddiweddaraf am gystadleuaeth arweinyddiaeth Llafur Cymru yn 2024?
Sut mae Prif Weinidog newydd yn cael ei ddewis?

 


 

Mae’r pleidleisiau yn yr etholiad wedi cael eu cyfrif ac mae Aelodau newydd wedi cael eu hethol i'r Senedd. Ond pwy fydd Prif Weinidog Cymru? Gadewch i ni weld sut mae'r broses yn gweithio.

Pryd mae Prif Weinidog Cymru yn cael ei enwebu?

Ar ôl cadarnhau’r Aelodau newydd a’r dyddiadau ar gyfer y Cyfarfod Llawn yn y Senedd, mae’r broses ar gyfer enwebu'r Prif Weinidog yn gallu dechrau.

Rhaid i'r Senedd enwebu Aelod i'w benodi'n Brif Weinidog cyn pen 28 diwrnod ar ôl etholiad Senedd.

Fel arfer, bydd yr enwebiadau hyn yn digwydd yn y Cyfarfod Llawn cyntaf, ond gallan nhw ddigwydd mewn unrhyw gyfarfod cyn i Bwyllgor Busnes y Senedd gael ei ffurfio.

Beth yw'r broses ar gyfer enwebu Prif Weinidog?

Dyma sut mae'r Prif Weinidog yn cael ei enwebu gan y Senedd:

Beth fydd yn digwydd os bydd mwy nag un Aelod yn cael ei enwebu i fod yn Brif Weinidog?

Dyma lle mae'n mynd yn ddiddorol.

Os enwebir mwy nag un Aelod, bydd Llywydd y Senedd yn dechrau galw’r gofrestr.

Yn nhrefn yr wyddor, fe ofynnir i Aelodau o'r Senedd bwy yw eu dewis ar gyfer rôl y Prif Weinidog. O dan y broses hon, mae Aelodau’n gallu ymatal, ond nid yw’r Llywydd na'r Dirprwy Lywydd yn cael pleidleisio.

Os enwebir dau Aelod, bydd y Prif Weinidog yn cael ei ddewis drwy bleidlais. O’r pleidleisiau sy’n cael eu bwrw, bydd yr ymgeisydd sy’n cael y nifer fwyaf yn cael ei enwebu i’w benodi’n Brif Weinidog Cymru.

Os enwebir mwy na dau Aelod, bydd y Llywydd yn gofyn i'r Aelodau bleidleisio dros eu dewis ymgeisydd.

Y tro hwn, bydd angen i’r Aelod buddugol gael mwy o bleidleisiau na chyfanswm pleidleisiau’r ymgeiswyr eraill gyda’i gilydd.

Fel arall, bydd y broses yn parhau, gyda’r ymgeisydd sydd â’r nifer isaf o bleidleisiau yn cael ei hepgor bob tro. Cynhelir pleidleisiau pellach drwy alw’r gofrestr nes y bydd gan un ymgeisydd dros hanner y pleidleisiau sy’n cael eu bwrw.

Canlyniad yr Enwebiadau

Bydd y Llywydd yn hysbysu’r Senedd o’r canlyniad a bydd yn argymell i'r Frenhines y dylai'r Aelod a enwebwyd gael ei benodi'n Brif Weinidog.

Eisiau gwybod mwy?

Dysgwch sut mae Llywydd y Senedd yn cael ei ethol, sut mae Aelodau'n cael eu penodi i'r Pwyllgor Busnes a llawer mwy yn ein Canllaw i Fusnes Cynnar y Cyfarfod Llawn.

Llwytho nawr