Wythnos Cydraddoldeb ac Amrywiaeth - hyrwyddo cydraddoldeb trawsryweddol

Cyhoeddwyd 11/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/06/2015

Er mwyn codi ymwybyddiaeth, mae angen i ni ystyried pa beth a olygwn wrth hunaniaeth o ran rhywedd a chydraddoldeb trawsrywedd, a sut y gallwn gefnogi pobl drawsryweddol yn well. Ystyr hunaniaeth o ran rhywedd yw a ydych yn ystyried eich bod yn fachgen neu'n ferch, yn ddyn neu'n fenyw. Mae a wnelo hyn â'r nodweddion y mae ein diwylliant yn disgwyl iddynt berthyn i'r naill rywedd neu'r llall. Fodd bynnag, nid yw pawb yn uniaethu â'r disgrifiad o’r naill ryw neu'r llall. Efallai eu bod yn uniaethu â'r rhyw sy'n wahanol i'r hyn a bennwyd ar eu cyfer adeg eu geni, neu efallai eu bod yn uniaethu â rhannau o'r naill ryw a'r llall. Yn aml, defnyddir termau deuaidd, du a gwyn i ddisgrifio rolau rhywedd - gwryw a benyw, dyn a menyw, gwrywaidd a benywaidd - ond nid yw gwneud hyn yn cydnabod ehangder yr amrywiaeth yn hunaniaeth pobl o ran rhywedd a mynegi rhywedd. Mae llawer o bobl yn defnyddio'r gair Traws fel term cyffredinol ar gyfer yr amrywiaeth hon. Defnyddir trawsryweddol (a dalfyrrir yn aml yn 'traws' neu 'traws*') fel term cynhwysol i ddisgrifio pobl sy'n teimlo nad yw'r rhyw a bennwyd ar eu cyfer adeg eu geni yn eu disgrifio neu fod y disgrifiad yn un anghyflawn. Mae'r term hwn yn cynnwys pobl sydd:
  • yn drawsrywiol (sef rhai sy'n gweld eu bod yn perthyn i'r rhyw arall o'r ddeuryw, yn hytrach na'r rhyw a bennwyd ar eu cyfer adeg eu geni)
  • yn rhyngrywiol (sef pobl y mae eu cyrff yn wahanol i'r diffiniad o nodweddion corff gwrywaidd neu gorff benywaidd)
  • y tu allan i'r ffurfiau deuaidd benywaidd/gwrywaidd.
  • yn mynegi eu rhywedd yn wahanol i'r hyn sy'n gysylltiedig fel arfer â'r rhyw a bennwyd ar eu cyfer adeg eu geni.
Mae'n werth cofio bod y derminoleg yn datblygu o hyd, felly mae'n bosibl y bydd diffiniadau yn newid. Gall y bydd rhai pobl drawsrywiol yn dewis newid eu cyrff drwy hormonau, llawdriniaeth neu gyfuniad o'r ddau. Yr enw am hyn yw ailbennu rhywedd neu drawsnewid, ac mae fel arfer yn broses gymhleth sy'n digwydd dros gyfnod hir. Nid yw bod yn drawsrywiol yn dibynnu ar weithdrefnau meddygol, a dylid cydnabod hunaniaeth unigolyn o ran rhywedd ni waeth a ydyw wedi ailbennu rhywedd o dan y gyfraith ai peidio. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi gwneud y fideos canlynol o bobl drawsryweddol yn rhannu eu profiadau: Mae Jenny-Anne Bishop yn egluro am ei bywyd fel menyw drawsrywiol yng Nghymru ac yn sôn am y profiadau gafodd hi o ganlyniad i'w thrawsnewid, ac mae Stephen Whittle siarad am ei drawsnewid a'i brofiadau ef (Saesneg yn unig). Rhagor o wybodaeth:
  • Gofynnodd llinyn gair rhydd BBC Three, Free Speech, i grŵp o bobl drawsryweddol ymateb i gwestiynau sydd gyda'r mwyaf cyffredin, y mwyaf rhyfedd a'r mwyaf anghwrtais y mae pobl yn gofyn iddynt: Trans People Respond To The Most Annoying Questions They Get Asked (Saesneg yn unig)
  • Mae Buzzfeed hefyd wedi creu fideo o'r enw 'Why Pronouns Matter for Trans people' (Saesneg yn unig)
  • Mae GLAAD wedi cynhyrchu Geiriau o gyngor i Gyfeillion Pobl Drawsrywiol (Saesneg yn unig). Pan ddewch yn gyfaill i bobl drawsryweddol, bydd eich gweithredoedd yn helpu i newid y diwylliant, gan wneud y gymdeithas yn lle gwell a mwy diogel i bobl drawsrywiol - ac i bawb (yn drawsrywiol ai peidio) nad ydynt yn cydymffurfio â disgwyliadau o ran rhywedd.
  • Mae Stonewall hefyd yn cynrychioli pobl drawsryweddol bellach.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cefnogi cydraddoldeb trawsryweddol yn llwyr. Mae hunaniaeth o ran rhywedd yn rhan o'n Cynllun Cydraddoldeb a'n polisïau yn y gweithle, megis Urddas yn y Gwaith. Nid ydym yn goddef trawsffobia, a ddiffinnir fel aflonyddu ar bobl drawsrywiol a gwahaniaethu yn eu herbyn. Rydym wedi gweithio gydag eiriolwyr trawsryweddol i ddatblygu Polisi Ailbennu Rhywedd gyda'r bwriad o gefnogi staff sydd wedi bod drwy broses ailbennu rhywedd neu sy'n bwriadu ymgymryd â'r broses honno. Mae OUT-NAW, sef ein rhwydwaith cefnogi staff LGBT, yn agored i staff LGBT y Cynulliad. Mae'n cefnogi staff LGBT ac yn hyrwyddo cydraddoldeb LGBT trwy gymryd rhan yn Pride,  Mis Hanes LGBT a Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia, Biffobia a Thrawsffobia.