Y Cynulliad yn eich ardal chi – gweithdai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y gogledd, 9 Chwefror 2012

Cyhoeddwyd 15/02/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/02/2012

Yr wythnos hon, cynhaliodd Lowri Williams, Rheolwr Allgymorth Gogledd Cymru y Cynulliad Cenedlaethol y trydydd mewn cyfres o weithdai ar ‘Ddeall ag ymgysylltu â gwaith y Cynulliad’.   Cafodd y gweithdy, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o nifer o sefydliadau gwirfoddol a chymunedau lleol, ei gynnal yn swyddfa’r Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Colwyn.   Soniodd Lowri wrth y grwpiau am weithio gyda’r Cynulliad ac am ffyrdd y gallant sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed. Roedd gan y grwpiau ddiddordeb arbennig mewn darganfod mwy am y broses ddeisebu a’r ffyrdd y gall eu Haelodau Cynulliad godi materion ar eu rhan. I gael rhagor o wybodaeth am weithdai’r Cynulliad, ffoniwch 0845 010 5500 neu anfonwch e-bost i archebu@cymru.gov.uk