Y Cynulliad yn eich ardal chi - Gweithdai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng ngogledd Cymru, 16 Ionawr 2012

Cyhoeddwyd 24/01/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/01/2012

Cynhaliodd Rheolwr Allgymorth y Cynulliad yng ngogledd Cymru weithdai yn ddiweddar o’r enw ‘Ddeall ac ymgysylltu a gwaith y Cynulliad.’ Cafodd y cyntaf ei gynnal yng nghanolfan gymunedol Parkfields, Yr Wyddgrug, a gwahoddwyd aelodau o’r gymuned leol a sefydliadau gwirfoddol i gymryd rhan yn y sesiwn. Y diwrnod canlynol, cynhaliwyd gweithdy tebyg yng Nghanolfan Cymunedau’n Gyntaf Llangefni, Ynys Môn ar gyfer sefydliadau gwirfoddol lleol. Cododd sawl pwnc ei ben yn ystod y gweithdai gan gynnwys apwyntiadau meddygol dros y ffin, ail-agor rheilffyrdd a darpariaeth i’r digartref. Derbyniodd pawb wybodaeth a chyngor ynglŷn â datrys y materion hyn megis cysylltu â’u Haelodau Cynulliad a Phwyllgor Deisebu’r Cynulliad. Bydd gweithdai eraill yn cael eu cynnal dros y misoedd nesaf gyda’r bwriad o godi ymwybyddiaeth a chreu partneriaethau â mudiadau gwirfoddol o bob cwr o’r rhanbarth.  Am fwy o wybodaeth cysyllter â’r Cynulliad ar 0845 010 5500 neu e-bostiwch archebu.cymru@wales.gov.uk