Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd – y wybodaeth ddiweddaraf gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Cyhoeddwyd 12/06/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/06/2020

Ar ôl datgan argyfwng iechyd cyhoeddus COVID-19, newidiodd pwyllgorau’r Senedd bwyslais eu gwaith i ganolbwyntio ar ymateb i’r argyfwng, fel cynifer o sefydliadau eraill. O ran y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, ystyr hyn yw oedi o ran rhywfaint o’n gwaith a gynlluniwyd, wrth inni ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio.

Mae’r deg wythnos ddiwethaf wedi rhoi cyfle inni addasu ein harferion gwaith yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, a diwygio ein rhaglen waith i adlewyrchu’r sefyllfa ehangach.

Er mai ymateb i’r pandemig yw prif flaenoriaeth y Llywodraeth o hyd, rhaid inni beidio ag anghofio bod y DU mewn cyfnod o bontio wrth ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, ac fel y mae pethau ar hyn o bryd, byddwn wedi gadael gyda chytundeb neu â dim cytundeb masnach ar 1 Ionawr 2021. Am y rheswm hwn, mae’r Pwyllgor yn parhau i ganolbwyntio ar ei gylch gwaith o ran edrych yn fanwl ar oblygiadau ymadawiad y DU â’r UE i Gymru.

Er mwyn cyflawni hyn, cyfarfu’r Pwyllgor o bell ac yn anffurfiol ym mis Ebrill i gytuno ar ei gamau nesaf, ac ers hynny mae wedi cynnal dau gyfarfod ffurfiol o bell i drafod ei feysydd gwaith parhaus fel Bil Masnach y DU, y trafodaethau o ran perthynas y DU a’r UE yn y dyfodol, a’r rhaglen parhad masnach.

Mae Bil Masnach 2019-21 yn gwneud cynnydd drwy Senedd y DU, ac mae’r Pwyllgor yn paratoi ar gyfer adrodd ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol sy’n gysylltiedig â’r Bil ddechrau mis Gorffennaf, gan ddatblygu ei waith ar yr adroddiadau blaenorol ar y Bil Masnach ym mis Mawrth 2018 a mis Mawrth 2019.

Cynhaliwyd ein cyfarfod darlledu rhithwir cyntaf ar 2 Mehefin 2020 lle gwnaethom holi’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd am rôl Llywodraeth Cymru yn y trafodaethau ar y berthynas â’r UE yn y dyfodol, a sut mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio. (Os gwnaethoch fethu’r cyfarfod, gallwch wylio recordiad ar Senedd.tv. neu ddarllen y trawsgrifiad).

Ar 16 Mehefin 2020, bydd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol yn ymddangos gerbron y Pwyllgor i drafod ymwneud Llywodraeth Cymru â rhaglen cytundebau masnach rydd arfaethedig Llywodraeth y DU, yn benodol y rheini ag Unol Daleithiau America a chyda Japan.

Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal drwy gynhadledd fideo a bydd ar gael i’w wylio ar senedd.tv yn fyw ac ar ôl y digwyddiad.

Yn ogystal â’n rôl o graffu ar Lywodraeth Cymru, ni allwn anghofio effaith y trafodaethau hyn ar Gymru yn ehangach. Er mwyn deall yn llawn y goblygiadau i Gymru o ymadawiad y DU â’r UE, rhaid inni ddeall sut mae busnesau a sefydliadau Cymru yn paratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio, yn enwedig yng ngoleuni effaith y coronafeirws.

Mae cadw pellter cymdeithasol a chyfyngiadau ar deithio yn golygu na allwn bellach gynnal y cyfarfod ar ffurf cynhadledd gyda rhanddeiliaid fel yr oeddem wedi’i gynllunio, ond gobeithiwn edrych ar ffyrdd eraill o ymgysylltu yn yr wythnosau nesaf.

Bydd rhagor o wybodaeth am hyn a’n holl feysydd gwaith ar gael ar ein gwefan.