Ymweliad Pwyllgor â Gwlad y Basg ar ffurf lluniau

Cyhoeddwyd 16/04/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/04/2019

Aelodau Pwyllgor y Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
gyda chynrychiolwyr Senedd Gwlad y Basg.

Diben

Ymwelodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu â Gwlad y Basg ym mis Mawrth. Diben yr ymweliad oedd edrych yn fanwl ar y ffyrdd y mae cymdeithas sifil a deddfwriaeth yng Ngwlad y Basg yn hyrwyddo ac yn gwella caffael iaith. Bydd yr enghreifftiau hyn o arfer gorau o wledydd eraill, sy’n debyg o ran maint i Gymru, yn cael eu defnyddio i lywio’r ymchwiliad i ‘Gefnogi’r Gymraeg’.

Y pynciau allweddol yr oedd y Pwyllgor am edrych yn fanwl arnynt oedd:

  • Edrych ar effaith datganoli rhannol darlledu yng Ngwlad y Basg, sef y manteision a’r anfanteision, a materion ariannu.
  • Edrych yn fanwl ar effeithiau nifer yr allfeydd darlledu a gynigir yn yr iaith Fasgeg.
  • Cael gwell dealltwriaeth o bolisïau a strategaethau iaith a fabwysiadwyd ac a weithredwyd yng Ngwlad y Basg, yn enwedig o ran addysg, yr economi a gweinyddiaeth gyhoeddus.
  • Sut mae Llywodraeth y Basg wedi mynd ati i gynllunio iaith yn y rhanbarth.
  • Edrych yn fanwl ar effaith ac effeithiolrwydd polisïau addysg yn y rhanbarth, o’r blynyddoedd cynnar i addysg alwedigaethol ac addysg prifysgol.
  • Hyrwyddo a hwyluso’r iaith yn y gymuned a chyda’r sector preifat.
  • Y cydbwysedd rhwng hyrwyddo iaith a deddfwriaeth

EiTB - Darlledwr Teledu a Radio Basgeg

Ymwelodd yr aelodau â EiTB (Euskal Irrati Telebista), sef y darlledwr a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer allbwn teledu a radio Basgeg a Sbaeneg yng Ngwlad y Basg. Rhoddodd yr ymweliad gyfle i Aelodau’r Pwyllgor deithio o gwmpas y prif swyddfeydd a’r cyfleusterau darlledu.

Cyfarfu’r Pwyllgor â Maite Iturbe, Cyfarwyddwr Cyffredinol EiTB, ac Odile Kruzeta, Cyfarwyddwr Radio a Chydlynu Golygyddol. Amlinellodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol gefndir y sefydliad a’r ddarpariaeth a’r allbwn presennol a gynigir.

Canolfan Addysgol CEIP - Ysgol Elfennol Siete Campas Zorrozgoiti

Yn dilyn yr ymweliad â EiTB, ymwelodd yr Aelodau ag ysgol drochi Basgeg mewn ardal o Bilbao o’r enw Zorrotza, sef ardal ag amddifadedd cymdeithasol mawr, ac sydd hefyd yn gartref i lawer o fewnfudwyr Bilbao. Bu’r Aelodau yn gweld ystafell ddosbarth oedran cyn-ysgol, lle y gwelsant boster ac arno ddihareb yn y Fasgeg, a oedd hefyd wedi’i chyfieithu i’r Gymraeg. Yna aethpwyd â’r Aelodau i ystafell ddosbarth cynradd i weld sut mae’r plant yn dysgu yn yr iaith Fasgeg.

Academi Frenhinol yr Iaith Fasgeg

Ymwelodd yr Aelodau ag Academi Frenhinol y Fasgeg yn Bilbao, a chyfarfod ag Erramun Osa, yr Is-Ysgrifennydd. Academi Frenhinol y Fasgeg yw’r corff swyddogol sy’n gyfrifol am yr iaith, ac mae’n gyfrifol am gynnal gwaith ymchwil a safoni’r iaith.

Cyflwynodd yr Is-Ysgrifennydd gopi o Linguae Vasconum Primitiae i Bethan Sayed, Cadeirydd y Pwyllgor - Ffrwythau cyntaf yr iaith Fasgeg.  Cyhoeddwyd y copi cyntaf ym 1545.

Llywodraeth y Basg

Ar ddiwrnod olaf yr ymweliad, ymwelodd yr Aelodau â Vitoria-Gasteiz, Prifddinas Cymuned Ymreolaethol y Basg a phencadlys y Llywodraeth. Yma, cyfarfu’r Aelodau â Miren Dobaran, yr Is-Weinidog Polisi Ieithyddol, ac Eugenio Jimenez, y Cyfarwyddwr Canolfannau a Chynllunio.

Clywodd yr Aelodau ar ôl diwedd unbennaeth Franco, agorodd tua 40 o ysgolion trochi Basgeg – lle’r oedd y plant yn yr ysgol yn bennaf o’r teuluoedd hynny a barhaodd i siarad yr iaith Fasgeg yn y cartref yn ystod cyfnod Franco, er bod yr iaith wedi’i gwahardd.

Clywodd yr Aelodau fod ysgolion cudd o’r enw Ikastola yn bodoli yn ystod unbennaeth Franco, a bod y rhain wedi helpu i gadw’r iaith yn fyw yn ystod y cyfnod hwn.

Mae darparu addysg yn y Fasgeg wedi bod yn hanfodol i oroesiad yr iaith, ac mae wedi profi mai dyma’r elfen fwyaf llwyddiannus o’r gwaith o gynllunio’r Fasgeg. Bu’n llwyddiannus o ran maint y gweithgaredd a nifer y cyfranogwyr. Mae hefyd wedi cael symiau sylweddol o gyllid gan y Llywodraeth dros y tri degawd diwethaf.

Mae cynllun economaidd-cymdeithasol hirdymor i gynyddu’r defnydd o’r Fasgeg yn y sector preifat, a hefyd i ddatblygu cyfryngau digidol a chynyrchiadau yn yr iaith.

Bu'r Pwyllgor yn cwrdd â Maite Alonso, yr Is-Weinidog Addysg, Eugenio Jimenez, Cyfarwyddwr Canolfannau a Chynllunio, Miren Dobaran, Is-weinidog Polisi Ieithyddol Llywodraeth y Basg.

Senedd Gwlad y Basg

Cyn gadael Gwlad y Basg, ymwelodd yr Aelodau â Senedd y Basg. Yma, cawsant eu cyfarch gan Bakartxo Tejeria, Llywydd Senedd y Basg, ac Aelodau eraill o’r Senedd.

Llofnododd holl Aelodau’r Pwyllgor y llyfr anrhydedd i nodi eu hymweliad â’r Senedd, a chyflwynodd y Llywydd Senedd Gwlad y Basg gerfiad pren o goeden (sy’n symbolaidd i bobl y Basg) i Gadeirydd y Pwyllgor i nodi ymweliad y Pwyllgor.

Ar ôl y cyflwyniad, eisteddodd yr Aelodau mewn ystafell bwyllgora, lle cynhaliwyd sesiwn ar y cyd ag Aelodau o’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd a Chysylltiadau Allanol.

Yn ystod y cyfarfod, clywodd yr Aelodau y gwnaed ymdrech a buddsoddiad mawr i hyrwyddo’r iaith, ond mai’r cam nesaf oedd cynyddu defnydd o’r Fasgeg, a phrif ffrydio’r iaith ar draws holl gyrff y llywodraeth, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd.

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad hwn, ewch i dudalen we’r Pwyllgor.