Ymwybyddiaeth o salwch meddwl

Cyhoeddwyd 21/06/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/06/2012

A wyddech chi fod un o bob pedwar unigolyn yn cael problemau iechyd meddwl rywbryd yn eu bywyd? Mae 90% o’r bobl hynny yn wynebu stigma neu wahaniaethu yn eu herbyn o ganlyniad. Nid yw gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn anghyffredin yng Nghymru. Canfu adroddiad ymchwil y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ‘Pwy ydych chi’n ei weld?’ y byddai 37% o’r bobl a gymerodd ran yn yr arolwg yn anfodlon pe bai perthynas agos iddynt yn priodi rhywun a oedd â chyflwr iechyd meddwl. Dim ond 40% o’r bobl a gymerodd ran yn yr arolwg a oedd o’r farn fod pobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl yn addas i fod yn athrawon ysgol gynradd. Nod ymgyrch Amser i newid Cymru yw rhoi diwedd ar wahaniaethu yn erbyn pobl sydd â salwch meddwl, ac ysgogi pawb ohonom i siarad am iechyd meddwl. Cliciwch yma i ddarllen am rai mythau a ffeithiau cyffredin am salwch meddwl. Cafodd David Crapaz-Keay brofiad personol o salwch meddwl. I ddysgu am ei stori ef. [youtube=http://www.youtube.com/watch?v=Ao0wvcdSVkQ] Mae elusen iechyd meddwl Mind wedi llunio pum cam tuag at les y gallem oll eu defnyddio yn y gwaith (Saesneg yn unig). Mae pob un o’r camau wedi’i gynllunio i’ch helpu chi i fod yn iachach yn feddyliol yn y gweithle. Rhowch gynnig arnynt heddiw!