Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Ffordd Blaenau’r Cymoedd – Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Cyhoeddwyd 20/02/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/02/2020

Mae Nick Ramsay AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, wedi cyhoeddi’r datganiad a ganlyn mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar ffordd yr A465 Blaenau’r Cymoedd rhwng y Fenni a Hirwaun.  

Dywedodd Mr Ramsay:

“Rwy’n croesawu’r adroddiad dros dro hwn gan yr Archwilydd Cyffredinol. Nid yw’n fawr o gyfrinach fod gwariant ar Ran 2 o brosiect yr A465 gryn dipyn yn uwch na’r gyllideb a ddyrannwyd ar ei gyfer a chryn dipyn ar ei hôl hi o ran yr amserlen, ac mae’n glir fod y gwaith adeiladu wedi cael cryn effaith ar y gymuned leol.

“Mae’r adroddiad yn rhoi crynodeb defnyddiol o’r problemau sydd wedi effeithio ar y prosiect ac sydd wedi bod wrth wraidd yr anghydfod cytundebol ynghylch cyfrifoldeb dros rai costau penodol. 

“Er bod y prosiect yn tynnu tua’i derfyn, mae’r gost derfynol i’r pwrs cyhoeddus yn dal yn ansicr. 

“Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ystyried casgliadau’r Archwilydd Cyffredinol cyn bo hir.”

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yw’r pwyllgor yn y Cynulliad Cenedlaethol sy’n gyfrifol am y modd y mae Llywodraeth Cymru yn gwario’i chyllideb i sicrhau bod pobl Cymru yn cael y gwerth gorau am arian.

Mae’r adroddiad llawn ar gael gan Swyddfa Archwilio Cymru.