Adroddiad y Pwyllgor Archwilio yn nodi y gallai’r Gronfa Ysgolion Gwell wneud yn well

Cyhoeddwyd 12/07/2006   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Adroddiad y Pwyllgor Archwilio yn nodi y gallai’r Gronfa Ysgolion Gwell wneud yn well

Mae adroddiad newydd gan Bwyllgor Archwilio’r Cynulliad wedi mynegi pryder ynghylch proses weinyddu Cronfa Ysgolion Gwell Llywodraeth y Cynulliad. Nod y cynllun yw symleiddio’r cynllun blaenorol, sef GEST, a’i wneud yn haws i’w weithredu, ond ni fu mor llwyddiannus â’r disgwyl yn ystod y flwyddyn gyntaf. Mae’r Gronfa Ysgolion Gwell yn rhoi cymorth grant wedi’i dargedu i Awdurdodau Addysg Lleol i’w helpu gyda’r broses o ddatblygu mentrau i wella safonau addysgu a chyrhaeddiad mewn ysgolion. Dyma’r ffynhonnell fwyaf o ran cyllid Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer hyfforddiant mewn swydd a gweithgareddau datblygu eraill mewn ysgolion. Yr arian crynswth ar gyfer 2005-06, yn cynnwys arian cyfatebol awdurdod lleol, oedd £49.4 miliwn. Yn ystod y cyfnod 2000 - 2001 i 2005 - 2006, canfu’r Pwyllgor fod Llywodraeth y Cynulliad wedi methu â bodloni’r rhan fwyaf o’i phrif gerrig milltir. Canlyniad hyn oedd bod gan Awdurdodau Addysg Lleol lai o amser i gynllunio gweithgareddau a dod o hyd i arian cyfatebol. Mae’n bosibl bod yr oedi wrth gadarnhau sut i ddyrannu’r grant hefyd wedi atal y broses o gynllunio rhai o’r gweithgareddau datblygu yn ystod tymor yr haf, sydd o bosibl yn amser da ar gyfer gweithgareddau datblygu, gan fod athrawon yn llai tebygol o fod yn addysgu. Mae’r adroddiad yn nodi nad yw’r gwerthusiad o’r Gronfa Ysgolion Gwell a’r prosiectau a ariennir ganddi, yn ddigon cadarn ac nad yw asesiadau Llywodraeth y Cynulliad o gynlluniau gwario Awdurdodau Addysg Lleol yn ddigon cadarn nac yn gyson.  Mae’r broses gynllunio hefyd wedi dioddef o ddiffyg arweiniad gan Lywodraeth y Cynulliad o ran polisi mewn ymgynghoriad ag Awdurdodau Addysg Lleol.   Mae’r adroddiad yn gwneud saith argymhelliad, yn cynnwys pennu safonau gofynnol o ran gwerthusiad gan Awdurdodau Addysg Lleol fel amod ar gyfer cyllid grant, a gwelliannau o ran cynllunio ac asesu cynlluniau gwario. Dywedodd Janet Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio: “Nod y Gronfa Ysgolion Gwell yw gwella’r system flaenorol ar gyfer dyrannu grantiau, ond mae angen i Lywodraeth y Cynulliad weithredu ein hargymhellion i gyflawni hyn. Dylai’r cynllun ganiatáu i ysgolion roi cynlluniau cadarn ar waith ar amser a chyda chyn lleied o fiwrocratiaeth â phosibl.”