Dug Caeredin

Dug Caeredin

Aelodau o’r Senedd yn talu teyrnged i'r Tywysog Philip

Cyhoeddwyd 12/04/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/04/2021   |   Amser darllen munudau

Heddiw fe wnaeth Llywydd y Senedd, arweinwyr y pleidiau ac Aelodau o’r Senedd dalu eu teyrngedau i Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Philip, Dug Caeredin. Cafodd y Senedd ei galw yn ôl er mwyn rhoi teyrnged a chynnal munud o dawelwch.

Dywedodd y Llywydd, Elin Jones AS:

“Mae'r Senedd wedi ei hadalw heddiw fel bod modd i'n Senedd genedlaethol fedru talu parch, yn dilyn marwolaeth Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Philip, Dug Caeredin. Mae’n addas ein bod, fel Senedd, yn unol â Seneddau cenedlaethol eraill, yn cyfarfod i gydymdeimlo â’i Mawrhydi y Frenhines a’r teulu brenhinol. Rhoddodd y Tywysog flynyddoedd lawer o wasanaeth cyhoeddus. Roedd hyn yn cynnwys gwasanaeth milwrol yn ystod yr ail ryfel byd a chreu Gwobr Dug Caeredin, sydd wedi rhoi profiadau a chyfleoedd hollbwysig i gannoedd ar filoedd o bobl ifanc yng Nghymru a thu hwnt.”

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS:

“Gyda phob bywyd hir iawn, o dan unrhyw amgylchiadau, mae yna gasgliad rhyfeddol o ddigwyddiadau sydd wedi eu profi a’u tystio, eu mwynhau neu eu goddef. Mae bod wedi byw bywyd o’r fath yng nghanol digwyddiadau byd eang ac mewn ffordd a wnaeth olygu fod pob profiad o ddiddordeb cyhoeddus yn hytrach na phreifat yn fwy rhyfeddol fyth, a dyna oedd bywyd y Dug Caeredin.”

Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies AS:

“Mi fydd gan nifer o Aelodau lawer o atgofion, ond yr atgof sydd gen i ohono o’r troeon pan ddaeth yma i’r Senedd a’r diddordeb a ddangosodd yn ystod y tri Agoriad y bues i’n rhan ohonyn nhw gydag ef, yn 2007, 2011 a 2016, yw dyn a oedd bob amser yn dangos diddordeb, wastad yn feddylgar ac, yn y pen draw, yn ystyriol ei farn ac wrth siarad â phobl o amgylch yr ystafell yn y Senedd ac wedi hynny.”

Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS:

“Nid teitl na statws na choron hyd yn oed yw gwaddol pwysicaf y Tywysog Philip a ddathlwn heddiw, ond y cymorth a wnaeth gynnig i eraill. Diolchwn iddo am ei gyfraniad. A diolchwn am yr holl gyfraniadau cyffelyb gan y rhai o'i genhedlaeth yntau ac iau y collasom eleni yng Nghymru a thu hwnt. Boed iddyn nhw oll huno mewn hedd perffaith.”

Caroline Jones AS, Arweinydd Grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio:

“Nid colled i deulu a ffrindiau yn unig yw marwolaeth y Dug Caeredin, mae’n golled i bob un ohonom ni. Fel brenhinwr ymroddedig, rwy’n galaru am golli person a oedd nid yn unig yn ddyn gwych ond hefyd yn enghraifft ddisglair o wasanaeth cyhoeddus. Fe roddodd Ei Uchelder Brenhinol ei fywyd i'w Frenhines a'n cenedl. Ac mae’n rhaid i hyd yn oed y gweriniaethwyr mwyaf brwd gyfaddef mai’r Tywysog Philip oedd un o’r gwasanaethwyr cyhoeddus mwyaf ymroddgar, dyn a oedd wedi ymrwymo i helpu eraill yn anad dim arall. ”

 

Arweinwyr y grwpiau pleidiol fu’n arwain y teyrngedau a bu cyfraniadau hefyd gan Kirsty Williams AS, Mark Reckless AS, Dafydd Elis-Thomas AS, David Melding AS, Alun Davies AS.

Gallwch wylio’r teyrngedau i gyd yn llawn ar Senedd TV