​​Angen cryfhau cyfraith newydd i ddiwygio'r broses o reoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad

Cyhoeddwyd 03/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/07/2015

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad wedi argymell bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) ond wedi galw am nifer o welliannau i gryfhau'r Bil.

Cafodd y Bil ei gyflwyno gan Mark Drakeford AC, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, ym mis Chwefror 2015, a bwriedir iddo gyd-fynd â'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'n ceisio gwella ansawdd y gofal a chefnogaeth y mae pobl yn ei gael yng Nghymru drwy adolygu a symleiddio'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol a'r gweithlu gofal cymdeithasol.

Mae'r Pwyllgor yn cefnogi amcanion y Bil yn unfrydol, ond mae'n credu bod angen cryfhau darpariaethau mewn nifer o feysydd, gan gynnwys cofrestru'r gweithlu, cyfranogiad ac ymgysylltiad y cyhoedd yn y drefn arolygu, a goruchwylio comisiynu gofal cymdeithasol gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol.

Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

"Mae llawer o bobl yng Nghymru, gan gynnwys rhai o'r bobl mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, yn dibynnu ar wasanaethau gofal cymdeithasol a'r bobl sy'n eu darparu.  Yn anffodus, rydym ni gyd wedi clywed am enghreifftiau lle mae pobl wedi cael eu gadael i lawr gan ofal gwael.

"Mae'r dystiolaeth a glywsom wedi tanlinellu'n glir yr angen am y Bil hwn, er mwyn creu sail gadarn ar gyfer sector gofal cymdeithasol sy'n cael ei reoleiddio'n dda, lle mae gwasanaethau o ansawdd uchel yn cael eu darparu gan weithlu gofal cymdeithasol sydd wedi'i hyfforddi'n briodol, sydd â'r cymwysterau cywir ac sydd wedi'i reoleiddio'n effeithiol.

"Mae ein 46 o argymhellion yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn ceisio cryfhau'r fframwaith rheoleiddio ac arolygu a bennwyd gan y Bil. Maent yn ceisio sicrhau ei fod yn ategu'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a'i fod yn cefnogi datblygu sector gofal cymdeithasol cadarn a chynaliadwy y gall pobl Cymru fod yn hyderus ynddo."

adroddiad ar ei waith craffu Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) PDF, 1MB