Arddangosfa gan Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad i’w chynnal yn adeilad y Pierhead

Cyhoeddwyd 24/09/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Arddangosfa gan Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad i’w chynnal yn adeilad y Pierhead

Mae adeilad Pierhead y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal Remembered, arddangosfa ffotograffig yn dathlu 90fed pen-blwydd Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad (CWGC). Agorwyd yr arddangosfa ar 17 Medi ac fe’i cynhelir tan 4 Tachwedd ym mhrif neuadd adeilad y Pierhead. Yn yr arddangosfa ceir tua 40 o luniau grymus newydd o bedwar ban y byd gan y ffotograffydd llwyddiannus, Brian Harris. Gwelir grym, harddwch a llonyddwch mynwentydd a chofebion lle coffeir 1.7 miliwn o wyr a gwragedd y Gymanwlad a fu’n gwasanaethu mewn rhyfeloedd, ac ymdrechion neilltuol a dyfal y rheiny sy’n credu na ddylid anghofio’r rheiny a fu farw mewn rhyfel. Mae’r comisiwn yn gofalu am ryw 9,000 o feddau rhyfel yng Nghymru ac yn dibynnu’n helaeth ar gymorth y cyhoedd ac awdurdodau lleol wrth ofalu am feddau ledled y wlad. Meddai Llywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas: ‘Mae adeilad y Pierhead yn dirnod a dyma’r peth cyntaf y byddai llawer o forwyr yn ei weld wrth agosáu at y dociau wrth ddychwelyd i Gaerdydd o ryfel. Mae cofeb y Llynges Fasnachol y tu allan i’r adeilad a’r gofeb yng nghyntedd yr adeilad, sy’n coffáu staff Cwmni Dociau a Rheilffyrdd Caerdydd a gollodd eu bywydau yn ystod y ddau ryfel byd, yn dystiolaeth o ymroddiad pobl Cymru adeg rhyfel. Felly, mae’n weddus iawn cynnal yr arddangosfa yma.’ Mae adeilad y Pierhead ar agor i’r cyhoedd rhwng 9.30am a 4.30pm yn ystod yr wythnos a rhwng 10.30am a 4.30pm ar benwythnos. Ni chodir tâl am fynediad. I gael gwybodaeth bellach am yr arddangosfa, cysylltwch â Peter Francis ar 01628 507163, peter.francis@cwgc.org, neu Emily Bird ar 01628 507171, emily.bird@cwgc.org.