Arloesedd yn gwthio Cynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad yn ei flaen

Cyhoeddwyd 15/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/07/2015

Dim ond un o'r datblygiadau sydd wedi helpu Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wella'i Gynllun Iaith Swyddogol yw'r cynnydd sylweddol o wnaed o ran cyflwyno a hyrwyddo cyfieithu peirianyddol, yn ôl adroddiad newydd.

Mae'r penderfyniad i lansio'r Gymraeg fel un o ieithoedd rhaglen Microsoft Translator yn 2014 wedi trawsnewid dulliau o weithio yn y Cynulliad gan fod modd i ddefnyddwyr gyfieithu o un iaith i'r llall yn gyflym ac yn uniongyrchol drwy ddefnyddio rhaglen Microsoft ac nid oes angen iddynt yn awr gomisiynu cyfieithiad ffurfiol. Mae hyn wedi caniatáu i staff roi sylw i feysydd blaenoriaeth eraill fel cyfieithu papurau briffio pwyllgorau.

Mae'r adroddiad, sy'n disgrifio'r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, hefyd yn amlinellu'r gwaith sydd wedi'i wneud o ran gwella gwasanaethau iaith i'r cyhoedd a staff y Cynulliad yn ogystal ag Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas AC, Comisiynydd y Cynulliad sy'n gyfrifol am swyddogaethau a pholisi Ieithoedd Swyddogol y Comisiwn:

"Mae'r adroddiad hwn yn dangos sut y mae ein gwasanaethau dwyieithog wedi gwella yn ystod y flwyddyn ac rydym yn agosáu at gyflawni ein huchelgais i gael ein cydnabod fel sefydliad gwirioneddol ddwyieithog.

"Drwy ein gwaith, rydym wedi llwyddo i greu sylfeini cadarn a byddwn yn parhau i adeiladu ar y rhain. Mae Comisiwn y Cynulliad, yn gwbl briodol,  wedi rhoi pwyslais  mawr ar ei strategaeth ymgysylltu, gan werthfawrogi pob cyfraniad at ddemocratiaeth.

 "Mae galluogi pawb i ymgysylltu â ni yn unrhyw un o'r ieithoedd swyddogol, waeth sut y maent yn dymuno gwneud hynny, yn rhan bwysig iawn o'r strategaeth honno. Drwy gyflwyno'r Strategaeth Sgiliau Dwyieithog a darparu'n bwrpasol ar gyfer dysgu sgiliau iaith, rydym yn dangos ein bod yn meddwl yn wahanol ac yn defnyddio ein hadnoddau mewn ffordd fwy hyblyg a chreadigol. "

Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2014-15 (PDF, 1MB)