Artist o Gaerdydd a enwebwyd am Oscar yn cael ei dathlu mewn arddangosfa yn y Senedd

Cyhoeddwyd 28/07/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/07/2022   |   Amser darllen munudau

Cafodd arddangosfa i ddathlu sgiliau a thalent arbenigol artist o Gaerdydd ei lansio yn y Senedd.

Mae'r arddangosfa, sy’n dwyn y teitl Affairs of the Art - Celf Joanna Quinn, yn dod â gwaith nas gwelwyd o'r blaen gan yr animeiddiwr enwog Joanna Quinn i Gymru am y tro cyntaf.  

Mae Joanna wedi gweithio yng Nghymru ers sefydlu’r cwmni animeiddio Beryl Productions gyda'i phartner - yr awdur a'r cynhyrchydd Les Mills - ym 1986, a chafodd ei ffilm Affairs of the Art ei henwebu yn y categori 'Ffilm Fer Animeiddiedig Orau' yng ngwobrau’r Oscars eleni.   

Ers sefydlu’r cwmni, mae'r cwpwl wedi cydweithio'n agos ar gynhyrchu eu ffilmiau animeiddiedig, ac wedi dathlu eu llwyddiannau gyda'i gilydd, gan ennill prif wobrau sy’n cynnwys tri Emmy, pedwar BAFTA a thri enwebiad Oscar.  

Dywed Joanna ei bod yn teimlo cyfrifoldeb i ddangos menywod cryf, galluog yn ei gwaith oherwydd bod dynion mor amlwg yn y diwydiant: "Ar yr adeg pan ddechreuais i, doedd dim llawer o animeiddwyr benywaidd yn gwneud ffilmiau. Felly, rwyf wir yn mwynhau gwneud ein ffilmiau o safbwynt benywaidd, y gallai'r gynulleidfa uniaethu â nhw - i gyd gyda llawer o hiwmor. Ac rydyn ni, wrth gwrs, yn dal i'w wneud!" 

Mae'r arddangosfa yn Oriel y Senedd rhwng dydd Gwener 22 Gorffennaf a 6 Medi ac mae'n cynnwys darluniau wedi'u fframio a chlipiau fideo byr, o ffilmiau cynharach sydd wedi ennill gwobrau i’r artist, gyda darluniau unigryw dethol o'i ffilm fer ddiweddaraf a enwebwyd am Oscar, Affairs of the Art, hefyd yn cael eu harddangos. 

Affairs of the Art 

Cafodd y ffilm gomedi 16 munud a ddarlunwyd yn gyfan gwbl â llaw, ei datblygu dros gyfnod o 6 blynedd, ac mae'n cynnwys 24,000 o luniau a grëwyd gan Joanna. Mae rhai ohonynt yn cael eu harddangos am y tro cyntaf erioed, fel rhan o'r arddangosfa.  

Mae'r ffilm yn arddangos obsesiynau ecsentrig, ond hoffus un teulu, sy'n amrywio o arlunio i dacsidermi anifeiliaid anwes, ond sydd hefyd yn defnyddio themâu’n ymwneud â theulu ac uchelgais nas gwireddwyd. Gweithiwr ffatri canol oed o Gymru, yw prif arwres y ffilm a dyma’r cymeriad a briodolir i Joanna. Beryl hefyd oedd yr ysbrodoliaeth i enw'r cwmni, Beryl Productions. Mae'r cymeriad eiconig yn ymddangos mewn 4 o ffilmiau Joanna.  

 

Dywed Joanna Quinn: 

"Roeddem ar ben ein digon pan gawsom wahoddiad i gael yr arddangosfa yn y Senedd! Er ein bod wedi cael arddangosfeydd ledled y byd, rydym wedi bod eisiau cael un yng Nghymru ers amser maith. Felly mae cael yr arddangosfa fawr gyntaf o'n gwaith celf yng Nghymru yn y Senedd, ar ein stepen drws ein hunain, yn anrhydedd enfawr.  

"Mae'r arddangosfa yn ddathliad o'r holl waith rydym wedi'i wneud, fel cwmni o Gymru, ers i Les Mills a minnau sefydlu Beryl Productions 36 mlynedd yn ôl, lle rydym wedi cynhyrchu ffilmiau a hysbysebion byd-eang, a’r cyfan o'n stiwdio yn Chapter, Caerdydd 

"Roedd cael Affairs of the Art wedi’i henwebu am Oscar yn brofiad mor gyffrous i ni. Gan fod Cymru'n wlad fach, roeddem yn teimlo'r don enfawr hon o gefnogaeth – fel pe bai’r wlad i gyd yn ein cefnogi. Ac roedd clywed llais Cymreig mawr Beryl yn atseinio o gwmpas Theatr Dolby yn Hollywood, gyda'r holl sêr yn edrych i fyny ac yn gwylio clipiau o'r ffilm, yn foment anhygoel. 

Ychwanegodd Joanna, "Wrth ddechrau ym myd animeiddio, o gymharu ag animeiddwyr gwrywaidd, nid oedd llawer o animeiddwyr benywaidd. Felly, roeddwn i'n teimlo mai fy nghyfrifoldeb i oedd darlunio'r menywod yr oeddwn yn eu hanimeiddio ac yn gwneud lluniau ohonynt ar gyfer y ffilmiau, fel menywod cryf a galluog."