Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi - ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau

Cyhoeddwyd 02/12/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/12/2016

​Gofynnir i bobl am eu barn a’u syniadau ar dreth newydd arfaethedig ar warediadau tirlenwi yng Nghymru.

Mae Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol yn edrych ar y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn disodli’r Dreth Dirlenwi bresennol. Dywed Llywodraeth Cymru y byddai’r gyfraith yn gyson â deddfwriaeth bresennol yn fras, ac y byddai gwaredu deunydd fel gwastraff i safleoedd tirlenwi yn cael ei drethu yn ôl pwysau.

Byddai treth hefyd ar ddympio gwastraff heb ganiatâd neu dipio anghyfreithlon, ar ben yr erlyniadau a’r dirwyon presennol.

Datganolwyd pwerau trethu dros dirlenwi i’r Cynulliad Cenedlaethol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2014.

Dywedodd Simon Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid: "Dyma’r trydydd darn o ddeddfwriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gyflwyno o dan y pwerau trethu newydd a ddatganolwyd i’r Cynulliad Cenedlaethol.

"Mae Cymru yn dod yn fwy cyfrifol am godi ei refeniw ei hun, felly mae’n hanfodol bod deddfau yn y meysydd hyn yn effeithiol, yn gadarn ac yn ymarferol.

"Hoffem glywed gan bobl sydd â diddordeb arbennig ym maes tirlenwi, i ddarganfod beth yw eu barn am y ddeddfwriaeth arfaethedig hon."

Ymysg y cwestiynau y bydd y Pwyllgor yn eu gofyn wrth edrych ar y gyfraith fydd ynghylch:

  • Egwyddorion cyffredinol y Bil a’r angen am ddeddfwriaeth;
  • Unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi’r darpariaethau hyn ar waith, ac a yw’r Bil yn eu hystyried;
  • A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil; a
  • Goblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir ym Mhennod 6 o’r Memorandwm Esboniadol).

Gall unrhyw un sy’n dymuno cyfrannu at yr ymchwiliad anfon e-bost at seneddcyllid@cynulliad.cymru, neu ysgrifennu at:

Clerc y Pwyllgor Cyllid
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd,
Caerdydd
CF99 1NA.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn tystiolaeth ysgrifenedig yw 11 Ionawr 2017.