Busnes y Cynulliad i ymateb yn well i anghenion pobl Cymru

Cyhoeddwyd 09/03/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Busnes y Cynulliad i ymateb yn well i anghenion pobl Cymru

Bydd Aelodau unigol yn cael mwy o gyfle i gyflwyno ac i ddylanwadu ar fusnes y Cynulliad ac i wneud yn siwr ei fod yn ymateb yn well i anghenion pobl Cymru.

Dyna un o amcanion y newidiadau arfaethedig yn Rheolau Sefydlog y Cynulliad (y rheolau sy’n ymwneud â busnes y Cynulliad).

Mae’r rheolau newydd hyn yn ceisio cryfhau’r broses o graffu ar ddeddfwriaeth, sy’n cydfynd â phwerau deddfu pellach y Cynulliad Cenedlaethol yn dilyn pleidlais gadarnhaol yn y refferendwm yr wythnos ddiwethaf.

O dan gynigion y Pwyllgor Busnes:

  • Bydd Aelodau’r Cynulliad, nad ydynt yn aelodau o’r llywodraeth, yn cael mwy o gyfle ac amser i gyflwyno materion i’w trafod;

  • Cynhelir balots cynharach ar gyfer dadleuon gan Aelodau nad ydynt yn aelodau o’r llywodraeth er mwyn rhoi mwy o amser iddynt baratoi ee drwy ymgynghori mwy â rhanddeiliaid;

  • Haen ddewisol arall o waith craffu yn y broses ddeddfu i ganiatáu rhagor o welliannau ar ôl y Cyfnod 3 presennol;

  • Bydd trefniadau pontio ar waith i ganiatáu i’r Cynulliad ddefnyddio’r pwerau deddfu newydd ar ddiwrnod cyntaf y Pedwerydd Cynulliad, yn dilyn y bleidlais ‘ie’ yn y Refferendwm ddydd Iau (3 Mawrth). Bydd y Pedwerydd Cynulliad wedyn yn cytuno ar y newidiadau angenrheidiol.

“Mae pobl Cymru wedi rhoi her glir i ni wireddu eu huchelgais drwy’r deddfau y byddwn yn eu gwneud,” meddai’r Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC.

“Rhan o’r broses honno yw gwneud yn siwr bod busnes y Cynulliad yn ymateb yn well i anghenion pobl Cymru.

“Felly, rydym wedi ceisio caniatáu i’r Cynulliad wneud rhagor, drwy gael gwared ar gyfyngiadau diangen a drwy gryfhau’r broses graffu, gan wneud darpariaethau newydd ar gyfer craffu’n well ar ddeddfau’r Cynulliad, Mesurau Senedd y DU neu ddeddfwriaeth Ewropeaidd sy’n effeithio ar Gymru.

“Rydym hefyd wedi ceisio creu mwy o gyfleoedd i Aelodau unigol gyflwyno a dylanwadu ar fusnes ac rwy’n siwr y bydd yr Aelodau newydd a’r Aelodau a gaiff eu hailethol yn awyddus i fanteisio ar y cyfleoedd hynny yn ystod y Pedwerydd Cynulliad.”

Rhagor o wybodaeth

Mae Pwyllgor Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyflwyno’r newidiadau yn y Rheolau Sefydlog heddiw.

Byddant yn amodol ar gytundeb yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Mawrth. Rhaid i ddau draean o’r Aelodau sy’n pleidleisio gytuno â’r newidiadau cyn y cânt eu mabwysiadu.