Bydd sesiynau’r Eisteddfod yn destun trafod ar Faes Blaenau Gwent
27 Gorffennaf 2010
Bydd wythnos o ddigwyddiadau yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy eleni yn sbarduno trafodaethau gwleidyddol a diwylliannol.
Am y tro cyntaf erioed, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi trefnu cyfres o sesiynau ar y Maes i annog dadleuon ar y pynciau llosg sy’n effeithio ar bobl Cymru.
Bydd y sesiynau, a gynhelir ym Mhabell y Cymdeithasau, yn ystyried ystod eang o bynciau, gan gynnwys hawliau dynol, arwyr Cymru a’r iaith Gymraeg. Bydd y sesiwn ar yr heriau sy’n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael ei chadeirio gan Elan Closs Stephens, cyn-gadeirydd S4C a Chadeirydd presennol Bwrdd Adfer Ynys Môn a benodwyd gan Lywodraeth Cymru, a bydd y sylwebydd gwleidyddol Richard Wyn Jones yn trafod y refferendwm sydd ar ddod ar bwerau deddfu i’r Cynulliad Cenedlaethol.
Bydd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad, hefyd yn arwain sesiwn ar y cyfansoddiad, a’i effaith ar Gymru yn y dyfodol, ddydd Mercher 4 Awst.
Dywedodd y Llywydd: “Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i annog mwy o gyfranogiad yn y broses wleidyddol yng Nghymru.
“Sylfaen yr ymrwymiad hwnnw yw cael pobl i drafod pynciau llosg yr oes, fel pwerau’r Cynulliad yn y dyfodol neu’r pwysau sydd ar ein gwasanaethau cyhoeddus oherwydd y wasgfa ar wariant cyhoeddus.
“Mae’r sesiynau hyn yn rhan o broses barhaus lle mae’r Cynulliad yn ceisio sbarduno ac annog cyfranogiad yn y broses ddemocrataidd ehangach ac mewn datganoli drwy ganolbwyntio ar y pynciau sydd o bwys i bobl Cymru.”
Dyma raglen llawn Sesiynau’r Eisteddfod:
31 Gorffennaf - 12.00 Pabell y Cymdeithasau 1
"Casineb, Cyfartaledd a Chyfiawnder: Tri gair i groniclo'r 21ain Ganrif?”
Fflur Jones yn ystyried pwysigrwydd y Ddeddf Hawliau Dynol.
2 Awst - 12.00 Pabell y Cymdeithasau 2
“Gwalia, O Walia! Argyfwng y Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru.”
Elan Closs Stephens yn bwrw golwg ar ddyfodol gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
3 Awst – 13.15 Pabell y Cymdeithasau 1
“Llyncu’r Mytholegau; Y Cymry a’u Harwyr.”
Hywel Williams yn taflu golwg ddeifiol ar arwyr Cymru ac yn gofyn ‘a ydyn ni’n ymddiried gormod yn ein harwyr?’
4 Awst – 11.00 Pabell y Cymdeithasau 1
“Dyfodol y cyfansoddiad.”
Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC yn ystyried cyfeiriad cyfansoddiadol Cymru.
5 Awst – 16.00 Pabell y Cymdeithasau 2
Richard Wyn Jones yn trafod y rhagolygon ar gyfer y refferendwm.
6 Awst – 13.00 Pabell y Cymdeithasau 1
“Dyfodol yr iaith a Mesur y Mesur.”
Emyr Lewis a Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn bwrw golwg ar Fesur arfaethedig y Gymraeg yng nghyd-destun ymdrechion i ddatblygu defnydd yr iaith.