Byddwn yn colli mwy o leoliadau cerddoriaeth fyw oni bai ein bod yn gweithredu’n gyflym

Cyhoeddwyd 18/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/01/2021   |   Amser darllen munudau

Mae lleoliadau cerddoriaeth fyw yn wynebu bygythiad difrifol a rhaid i ni weithredu nawr neu wynebu colli lleoliadau ar lawr gwlad am byth. 

Mae angen i Lywodraeth Cymru roi cefnogaeth ymarferol ac ariannol i leoliadau a rhoi arwydd clir pryd y gall digwyddiadau byw ailgychwyn, yn ôl Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd.

Mewn adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi gan y Pwyllgor heddiw, dydd Gwener 18 Rhagfyr, mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi amserlen ar gyfer ailagor lleoliadau cerddoriaeth fyw mewn ffordd ddiogel a chyfrifol. Mae'n annog Llywodraeth Cymru i edrych yn greadigol ar syniadau fel gigs awyr agored sy’n cadw pellter cymdeithasol. Er fod digwyddiadau o’r fath yn annhebygol o fod yn broffidiol mi fydd yn rhoi cyfle i bobl fwynhau cerddoriaeth fyw unwaith eto ac yn darparu rhywfaint o incwm i artistiaid, gweithwyr a pobl llawrydd o fewn y diwydiant sydd yn wynebu colli bywoliaeth. Dylai’r cynllun gynnwys digwyddiadau diwylliannol eraill, fel theatr a dawns, yn ogystal â cherddoriaeth fyw.

Mae’r adroddiad yn darparu nifer o gamau i helpu busnesau i gwrdd â heriau oedd yn bodoli cyn effeithiau’r coronafeirws. Roedd yr adroddiad yn barod ym mis Mawrth 2020 ond gohiriwyd y cyhoeddiad nes i effaith y pandemig ddod yn gliriach, cyn casglu mwy o dystiolaeth.

Mae pandemig wedi cyflymu problemau 

Cyn y pandemig, roedd y diwydiant yn wynebu sawl her, ac roedd Cymru eisoes wedi colli sawl lleoliad dylanwadol fel y Parrot yng Nghaerfyrddin, TJs yng Nghasnewydd, Gwdihŵ a’r Point yng Nghaerdydd. Gwelodd y Pwyllgor fod cynnydd mewn rhent ac ardrethi busnes yn broblem a bod rhai yn wynebu heriau oherwydd cwynion sŵn neu dadlau am geisiadau cynllunio. Enghraifft o ymgyrch lwyddiannus oedd ‘Achub Stryd Womanby’, pan roedd un o ardaloedd cerddoriaeth fyw mwyaf poblogaidd Caerdydd dan fygythiad oherwydd cynlluniau posib i ddatblygu fflatiau ar yr un stryd.  

Mae llawer o argymhellion yr adroddiad yn mynd i’r afael â heriau oedd yn bod cyn y pandemig, ac mae’r Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i ddeall yn well y rhesymau pam bod lleoliadau yn cau er mwyn gallu mynd i’r afael a’r problemau.

Mannau hanfodol ar gyfer creadigrwydd a chymuned 

Mae lleoliadau bach yn lleoedd pwysig i artistiaid loywi eu sgiliau a mynegi eu hunain yn greadigol. Maent hefyd yn lle i gwrdd â phobl newydd, creu cyfeillgarwch gydol oes a chreu cymuned.

Dywedodd Sam Dabb o Le Public Space yng Nghasnewydd, “Rwyf wedi gwylio pobl yn cwrdd mewn gigs, syrthio mewn cariad a chael plant sydd nawr yn mynd i gigs mewn tafarn i efallai cwrdd â’r person y byddan nhw’n syrthio mewn cariad â nhw”.

Disgrifiodd Dilwyn Llwyd, rheolwr Neuadd Ogwen, sut roedd ei leoliad wedi’i wreiddio yn yr ardal leol: “Dwi’n meddwl, yn economaidd, mae cerddoriaeth yn gallu gwneud lles i bobl ond hefyd rydyn ni’n creu llwyth o waith i bobl yn y gymuned ac yn helpu busnesau eraill.”

Mae lleoliadau cerdd yn bywiogi cymunedau. Wrth gynllunio ar gyfer adferiad y wlad ar ôl pandemig, ni ddylid anghofio hynny, ynghyd â chyfraniad cerddoriaeth fyw i’r economi gyda’r nos. 

Gweithgarwch digidol fel cefnogaeth tymor byr 

Yn wahanol i arferion byw eraill – fel gwaith, hamdden neu siopa – nid yw digwyddiadau ar-lein yn gallu cymryd lle gigs byw. Ond hyd nes y gall y lleoliadau ailagor, mae digwyddiadau wedi'u ffrydio'n ddigidol yn cefnogi artistiaid ac yn rhoi ffordd i gynulleidfa fwynhau cerddoriaeth fyw. 

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried a oes angen cefnogi’r diwydiant i greu mwy o weithgarwch digidol, ac i gynnig man canolog o gynnwys diwylliannol digidol Cymru. Ond ni ddylid dibynnu ar hyn fel datrysiad tymor hir.

“Rhaid gweithredu cyn ei bod hi’n rhy hwyr” 

Yn ôl Helen Mary Jones AS, Cadeirydd dros dro y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu:

“Yn ystod ein hymchwiliad, clywsom am bwysigrwydd lleoliadau cerddoriaeth fyw fel canolbwynt creadigol y wlad, i les pobl a’r economi leol. Er mwyn cefnogi hyn, mae angen i Lywodraeth Cymru roi arwydd clir ynghylch pryd y gallan nhw ddechrau cynnal digwyddiadau eto.

“Mae’r Pwyllgor yn cydymdeimlo â’r her sydd gan Lywodraeth Cymru wrth gadw rheolaeth ar y feirws a cheisio caniatáu i fywyd normal barhau cymaint a phosib. Ond mae’n gynyddol anodd cyfiawnhau pam, er enghraifft, bod tafarndai a sinemâu yn gallu agor, ond does dim modd caniatáu perfformiadau cerddoriaeth fyw, gyda’r amod eu bod yn cael eu trefnu yn ôl yr un rheolau pellter cymdeithasol â’r lleoliadau eraill. Er bod cynnal digwyddiadau sy’n cadw pellter cymdeithasol yn annhebygol o fod yn broffidiol, mi fydd yn rhoi rhywfaint o gefnogaeth i artistiaid a gweithwyr diwydiant sydd wedi dioddef oherwydd diffyg incwm.

“Yn yr adroddiad hwn rydym hefyd yn argymell nifer o gamau i helpu’r busnesau hyn i gwrdd â heriau oedd yn bodoli cyn i’r coronafeirws eu taro. Mae’r argymhellion yn cynnig fframwaith lle gobeithiwn y gall y diwydiant cerddoriaeth fyw adfer o’r pandemig, a ffynnu.

“Os bydd lleoliadau yn cau ac yn methu â symud i rywle arall, byddant yn cael eu cau am byth. Mae angen i’r sector cyhoeddus - gan gynnwys Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol - gydnabod y bygythiad dirfodol i gerddoriaeth fyw, a gweithredu cyn ei bod hi’n rhy hwyr.”