Comisiwn y Cynulliad yn datgan ei gynllun ar gyfer newid enw'r sefydliad

Cyhoeddwyd 13/06/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/06/2017

​Mae Comisiwn y Cynulliad wedi cytuno i ddeddfu cyn diwedd y Cynulliad hwn er mwyn ailenwi'r Cynulliad Cenedlaethol yn Senedd Cymru/Welsh Parliament. 

Cytunodd y Comisiwn i ymgynghori â phobl Cymru ar y mater hwn yn dilyn pleidlais unfrydol y Cynulliad ym mis Gorffennaf 2016 o blaid cael enw sy'n adlewyrchu statws cyfansoddiadol y sefydliad fel senedd genedlaethol.

Heddiw, mae Comisiwn y Cynulliad yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad. Cafwyd cyfanswm o 2,821 o ymatebion i'r arolwg gan bobl o bob oedran ac o bob rhan o Gymru. 

Roedd 61 y cant o’r ymatebwyr yn cytuno neu’n cytuno’n gryf y dylai’r Cynulliad newid ei enw ac mai’r enw a oedd yn disgrifio rôl a chyfrifoldeb y sefydliad orau oedd: Senedd Cymru/Welsh Parliament (73 y cant). Roedd 60 y cant o’r ymatebwyr yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf bod pobl yn deall rôl y Cynulliad yn dda.

Nid oedd y teitl dewisol ar gyfer y cynrychiolwyr etholedig mor amlwg. Ar y cyfan, y dewis mwyaf poblogaidd oedd Aelod o Senedd Cymru/Member of the Welsh Parliament. Fodd bynnag, ar gyfer y Saesneg, cytunodd y Comisiwn gynnig galw’r Aelodau’n ‘Welsh Parliament Members’, yn unol â’r teitl cyfredol ‘Assembly Members’.

Bydd y newid yn cael ei roi ar waith fel rhan o raglen ehangach o ddiwygiadau sy'n cael eu hystyried yn dilyn trosglwyddo pwerau perthnasol yn sgil Deddf Cymru 2017.

Yn benodol, mae'r Ddeddf yn rhoi cymhwysedd i'r Cynulliad mewn perthynas ag ystod o drefniadau mewnol, sefydliadol a gweithredol. Mae'r rhain yn cynnwys materion fel y rheolau sydd ynghlwm wrth anghymhwyso unigolion rhag bod yn aelodau o'r Cynulliad, gweinyddu etholiadau, a'r modd y mae ein cyfundrefn bwyllgorau wedi'i llunio.

Mae'r Comisiwn yn ystyried sut y bydd newid y trefniadau presennol yn gwella statws y ddeddfwrfa fel sefydliad hygyrch sy'n edrych tua'r dyfodol ac sy'n gwasanaethu pobl Cymru yn effeithiol.
Meddai Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
"Mae pobl o bob oedran, rhanbarth a chefndir ledled Cymru wedi cymryd amser i gyflwyno'u sylwadau, ac rwy'n ddiolchgar i bawb a roddodd o'u hamser i rannu eu barn â ni.

"Rwy'n gobeithio y bydd y newid yn chwarae rhan yn y broses o sicrhau bod mwy o bobl yn llwyr ddeall pwerau'r Cynulliad a'r rôl y mae'n ei chwarae yn eu bywydau. Ein rôl ni heddiw yw bod yn gorff seneddol llawn, gyda'r pŵer i ddeddfu a chytuno ar drethi. Rhaid inni barhau i weithio'n galed i ennyn hyder, ymddiriedaeth a balchder yn y bobl yr ydym yn eu gwasanaethu. 

“Ni fydd newid yr enw yn ei hun yn gwneud hynny, ond mae'r cam hwn yn rhan o becyn ehangach o ddiwygiadau a fydd, yn fy marn i, yn chwarae rhan bwysig yn y broses o wella dealltwriaeth pobl o rôl deddfwrfa ddemocrataidd y genedl. Mae'r Comisiwn yn bwriadu cyhoeddi'r ddeddfwriaeth a fydd yn dod â'r diwygiadau hynny i rym y flwyddyn nesaf.”

Meddai Suzy Davies AC, Comisiynydd y Gyllideb a Llywodraethu:
"Rydym yn cydnabod bod rhai o'r bobl a ymatebodd i'r ymgynghoriad yn bryderus am y costau posibl a allai fod ynghlwm wrth unrhyw newid enw.  Rwyf am roi sicrwydd iddynt nad ydym yn bwriadu ail-frandio'r sefydliad yn llwyr na gwastraffu adnoddau drwy ruthro. Byddwn yn deddfu yn y dyfodol agos, ond yn y cyfamser, bydd y sefydliad hwn yn parhau i gael ei adnabod yn swyddogol wrth ei enw statudol presennol, sef Cynulliad Cenedlaethol Cymru, er mwyn osgoi dryswch, lleihau costau a pheidio â tharfu ar ein gwaith.”

Mae crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad ar gael yma: cynulliad.cymru/enw

Darllenwch ydatganiad llawn (PDF, 196KB) gan Elin Jones AC / AM, Llywydd y Cynulliad