Cryfhau pwerau’r Comisiynydd Safonau ar ôl i’r Frenhines gymeradwyo cyfraith newydd

Cyhoeddwyd 10/12/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Cryfhau pwerau’r Comisiynydd Safonau ar ôl i’r Frenhines gymeradwyo cyfraith newydd

10 December 2009

Bydd modd i Gomisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru hyrwyddo, annog a diogelu safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus ymhlith Aelodau’r Cynulliad, yn ogystal â manteisio ar bwerau cryfach i ymchwilio i gwynion yn erbyn yr Aelodau.

Daw hyn yn sgil rhoi Cymeradwyaeth Frenhinol heddiw i Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyflwynwyd y Mesur gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

“Roeddem yn teimlo y dylai’r Comisiynydd Safonau annog safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus ymhlith Aelodau’r Cynulliad, ac y dylai gael pwerau cyfreithiol cryf i ymchwilio i unrhyw gwynion am gamwedd”, meddai Jeff Cuthbert AC, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Mae’r Pwyllgor yn credu y bydd y pwerau yn y Mesur yn gymorth i adfer hyder y cyhoedd yn ein cynrychiolwyr etholedig yng Nghymru.

“Mae hyn yn golygu y bydd y Comisiynydd Safonau bellach yn gwbl annibynnol ac y bydd ganddo ymddiriedaeth y cyhoedd.”

Bydd y Mesur Cynulliad yn sicrhau bod y Comisiynydd Safonau:

  • yn gallu hyrwyddo safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus ymhlith Aelodau’r Cynulliad;

  • yn meddu ar bwerau i’w alluogi i ymchwilio’n drylwyr i gwynion;

  • yn gwbl annibynnol o’r Cynulliad ac felly’n gallu gweithredu gyda gwrthrychedd llwyr.