Gwir gyfraniad menywod mewn gwleidyddiaeth wedi’i warchod mewn archif genedlaethol

Cyhoeddwyd 09/11/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/11/2021   |   Amser darllen munudau

  • Profiadau menywod blaengar y byd gwleidyddol wedi eu cofnodi a’u diogelu mewn archif genedlaethol
  • Mae dros 50 o fenywod a etholwyd i'r Senedd ers genedigaeth datganoli Cymru wedi cofnodi eu straeon

Mae profiadau'r menywod a chwaraeodd ran ganolog yn negawdau cyntaf datganoli yng Nghymru wedi'u cofnodi a'u gwarchod mewn archif genedlaethol.

Mae lleisiau a phapurau Aelodau benywaidd presennol a blaenorol y Senedd wedi’u cofnodi yn Gwir Gofnod o Gyfnod - Setting the Record Straight, prosiect gan Archif Menywod Cymru / Women’s Archive Wales a’r Senedd.

Cyn- Aelod o’r Senedd, Suzy Davies, yn recordio ei chyfraniad hi i’w roi ar gof a chadw yn yr archif

 

O'r cychwyn cyntaf, roedd gan y Senedd gyfran uwch o fenywod ymhlith ei Haelodau o gymharu â Seneddau tebyg eraill yn rhyngwladol. Yn 2003 hwn oedd y corff deddfwriaethol cyntaf yn y byd i sicrhau cydraddoldeb - rhaniad 50:50 o fenywod a dynion. Ac eto, cyn y prosiect, prin oedd y gwleidyddion benywaidd oedd wedi archifo eu dogfennau, ffotograffau, a phapurau, tra bod gwleidyddion gwrywaidd wedi bod yn rhagweithiol wrth wneud hynny.

Nod y prosiect hwn yw gwneud yn iawn am hynny a gwarchod etifeddiaeth cyfraniad menywod at gyfnod sydd wedi diffiniol hanes gwleidyddol Cymru a llywio ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.

Mae gan yr holl gyfranwyr stori ddiddorol a phersonol i'w hadrodd, o'r modd y daethant yn rhan o wleidyddiaeth a'r anawsterau y daethant ar eu traws, i'r ymgyrchoedd a hyrwyddwyd ganddynt a pham.

Wrth siarad yn ei recordiad ar gyfer yr archif, dywedodd Siân Gwenllian, Aelod o‘r Senedd dros Arfon ers 2016:

“Mae ymchwil wedi’i wneud sy’n dangos bod yn y Cynulliad Cenedlaethol [Senedd Cymru bellach] pynciau fel gofal plant a rhannu swydd yn cael mwy o sylw fan hyn nag mewn sefydliadau lle does gennych chi ddim y cydraddoldeb yma. Mae cael mwy o ferched yn golygu bod bywydau pob merch yn mynd i fod yn well, oherwydd rydyn ni'n tynnu sylw at y pethau pwysig yn ein bywydau.” 

Bydd digwyddiad i ddathlu penllanw prosiect dwy flynedd yn cael ei gynnal yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth 9 Tachwedd 2021). Mae'n brosiect ar y cyd gan Archif Menywod Cymru / Women’s Archive Wales a'r Senedd, gyda chyllid hefyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad mae Elin Jones AS, Llywydd y Senedd, sydd wedi cynrychioli etholaeth Ceredigion ers etholiad cyntaf Cymru ym 1999.

Mae Elin Jones wedi hyrwyddo gwaith yr archif o'r cychwyn cyntaf. Mae ei stori wedi'i recordio, ynghyd â dogfennau pwysig ers dechrau ei gyrfa.

Digwyddiad Archif Menwyod Cymru yn y Senedd, Elin Jones AS Llywydd

Elin Jones AS, Llywydd y Senedd, yn siarad yn y digwyddiad yn y Senedd

 

Meddai Elin Jones AS, Llywydd y Senedd: 

“Mae’n hanfodol bod cyfraniad menywod i wleidyddiaeth Cymru yn cael ei warchod fel bod gennym gofnod o’r rôl hanfodol y mae’r menywod hynny yn ei chwarae. Roedd gan y Senedd genedlaethol nifer mor sylweddol o fenywod o'r dechrau, fe’i galluogodd i dorri tir newydd. Cafodd effaith wirioneddol ar y ffordd yr esblygodd y Senedd a'r ffordd y gwnaethom wleidyddiaeth. Mae gan yr archif gyfraniad pwysig i’w wneud wrth gofnodi’r stori gyfan a sicrhau bod llais menywod yn cael ei glywed pan fydd cenedlaethau’r dyfodol yn edrych yn ôl ar stori democratiaeth Cymru.” 

Yn ôl Catrin Stevens, cyn-Gadeirydd Archif Menywod Cymru / Women’s Archive Wales a Chydlynydd y prosiect hwn: 

 “Fel Archif rydym wedi bod yn pryderu ers tro bod menywod mewn gwleidyddiaeth yn amharod i adneuo eu papurau gwleidyddol pwysig yn ein harchifau cenedlaethol a lleol, tra bod dynion wedi bod yn rhagweithiol yn cynhyrchu cofiannau a diogelu eu gwaddol gwleidyddol. Mae’r prosiect hwn wedi llwyddo i wyrdroi hyn a sicrhau y bydd cyfraniadau enfawr menywod yn ystod blynyddoedd cyntaf Datganoli yn cael eu diogelu yn eu papurau a’u lleisiau ar gyfer y dyfodol. Bu’n fraint, yn anrhydedd ac rwy wedi fy ysbrydoli wrth wneud hynny.”

Hefyd wedi'u cynnwys yn yr archif mae straeon pedair menyw ifanc a oedd ymhlith Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru gyntaf: Eleri Griffiths (Cwm Cynon) Arianwen Fox-James (Powys), Talulah Thomas (De Clwyd) ac Alys Hall (Rhondda).

Eleri Griffiths, cyn Aelod Senedd Ieuenctid Cymru, sy’n un o bedwar sydd wedi cofnodi eu stori yn yr archif

 

Ffilmiwyd dros 50 o gyfweliadau treiddgar, yn Gymraeg a Saesneg, gyda menywod fu’n Aelodau o’r Cynulliad a’r Senedd yn y gorffennol a'r presennol ar gyfer yr elfen hanes llafar o’r casgliad Gwir Gofnod o Gyfnod, llawer ohonynt yn allweddol ac yn flaenllaw yn y frwydr dros ddatganoli a chydraddoldeb ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf.

Bydd y casgliadau llafar a dogfennol hyn yn cael eu cadw yn Archif Sgrîn a Sain Genedlaethol Cymru ac Archif Wleidyddol Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ogystal ag archifau perthnasol eraill ledled y wlad, lle gall haneswyr, ymchwilwyr, myfyrwyr, ac aelodau o'r cyhoedd eu gwylio a'u hastudio ac wedi'u diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a chlipiau o'r recordiadau archif yma