Cyfarfod Llawn i ddechrau am 12:30

Cyhoeddwyd 09/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/12/2020

Amserlen Busnes Llawn 9 Rhagfyr 2020. 

Wele isod agenda ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw sydd wedi ei ddiweddaru.  

Nodwch yr amser cychwyn cynharch am 12:30 i ganiatáu parhad y cyfarfod gohiriedig ddoe sy'n cynnwys y ddadl a phleidlais ar gydsyniad deddfwriaethol ar Bil y Farchnad Fewnol.

Ailddechrau cyfarfod gohiriedig dydd Mawrth am 12:30. 

  • LCM Bil y Farchnad Fewnol - (45 munud)
  • Cynnig i atal Rheolau Sefydlog
  • Cynnig gweithdrefnol gan y Trefnydd i ohirio dadl Coronafirws i gyfarfod dydd Mercher
  • Adolygiad Blynyddol Cydraddoldeb a Hawliau Dynol - wedi'i ohirio
  • Amser Pleidleisio (LCM yn unig)
  • TORIAD

 Cyfarfod Llawn Dydd Mercher (amcangyfrif amser dechrau - 13:30) 

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol (Pontio Ewropeaidd) (45 munud)
  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • TORIAD
  • Cefnogaeth IMD i Fabanod a Rhieni Newydd (60 munud)
  • Dadl Deisebau ar Lifogydd RhCT (30 munud)
  • TORIAD
  • Cynnig i grwpio'r ddwy eitem ganlynol i'w trafod gyda phleidleisiau ar wahân (cyfanswm o 90 munud):
    • Dadl Coronafirws LlC (wedi'i ohirio o ddydd Mawrth 8/12)
    • Dadl Coronafirws Ceidwadol
  • Dadl Pwyllgor Safonau (15 munud)
  • Cynnig gweithdrefnol i ohirio'r Ddadl Fer i Gyfarfod Llawn Dydd Mercher nesaf (Andrew RT Davies)
  • Amser Pleidleisio