Cyfle i ymwelwyr ag Eisteddfod yr Urdd ddweud eu dweud am yr hyn y dylai’r Pumed Cynulliad fod yn ei drafod

Cyhoeddwyd 27/05/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 31/05/2016

​Bydd plant a phobl ifanc sy’n ymweld ag Eisteddfod yr Urdd yn y Fflint yr wythnos nesaf (30 Mai - 5 Mehefin) yn cael cyfle i wneud sylwadau ar faterion sy’n bwysig iddynt.

Bydd gweithgareddau wedi’u seilio ar materion a ddaeth i’r amlwg yn Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Pedwerydd Cynulliad, gan ganolbwyntio ar gasglu sylwadau pellach gan blant a phobl ifanc ar y themâu hyn.

Bydd ymwelwyr â bws y Cynulliad yn yr Eisteddfod yn gallu ysgrifennu sylwadau ar gardiau post a phleidleisio ar eu dewisiadau, ymhlith gweithgareddau eraill.

Bydd y themâu i’w trafod yn cynnwys: amser dechrau’r diwrnod ysgol, gwell addysg ariannol a gwleidyddol, ailgylchu a diogelu’r Gymraeg a diwylliant Cymru.

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd newydd y Cynulliad: “Mae ein presenoldeb yn Eisteddfod yr Urdd yn rhoi llwyfan i’r Cynulliad ymgysylltu â phlant a phobl ifanc a’u cynnwys yng ngwaith y Cynulliad.”

“Mae’n hanfodol ein bod yn darparu cyfleon i pobl ifanc gyfrannu yn ein strwythurau democrataidd a ennyn diddordeb yn y gwaith a wnawn yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, oherwydd nhw yw pleidleiswyr y dyfodol, ac mae’n bosibl mai nhw fydd Aelodau Cynulliad y dyfodol.”

“Bydd bws y Cynulliad hefyd yn cynnig gwledd o weithgareddau llawn hwyl a sbri yn ystod yr wythnos i ymwelwyr o bob oed.”

Dydd Gwener, 3 Mehefin am 15.30 bydd y newyddiadurwraig Catrin Hâf Jones yn y Tipi Syr IfanC ary Maes yn holi cynrychiolwyr o’r pleidiau gwleidyddol am faterion cyfoes pobl ifanc ac am eu blaenoriaethau ar gyfer y Pumed Cynulliad. Y panel yw Hannah Blythyn AC, Mark Isherwood AC a Marc Jones (ar ran Llyr Gruffydd AC). Croeso i bobl ifanc sydd ar y Maes Ddydd Gwener i ddod draw i holi beth sydd yn bwysig i chi.

Bydd ymwelwyr hefyd yn gallu darganfod pwy yw’r 60 Aelodau Cynulliad a etholwyd i’r Pumed Cynulliad a sut y gall pobl ymgysylltu â’r Cynulliad i ddweud eich dweud.

Mae gweithgareddau eraill yr wythnos yn cynnwys:

  • Helfa drysor ‘Cyfranogiad yng Nghymru’ ar y cyd ag Urdd Gobaith Cymru, Llywodraeth Cymru, Plant yng Nghymru a Chomisiynydd Plant Cymru.
  • Helfa drysor ‘Ben Dant’ - lle gall plant ifanc gasglu sticeri o wahanol stondinau ar y Maes.
  • Bydd cast Ysbyty Hospital ar y stondin bob dydd yn cynnal gweithgaredd i blant.
    Dydd Llun - Dydd Iau am 10.30
    Dydd Gwener am 11.30