Cyfyngu nifer yr Aelodau yn y Siambr – Llythyr gan y Llywydd

Cyhoeddwyd 24/03/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020   |   Amser darllen munudau

Mae'r Llywydd wedi ysgrifennu at holl Aelodau'r Cynulliad ynghylch y Sesiwn Lawn ar ddydd Mawrth, Mawrth 24, a fydd yn cynnwys newidiadau gan gynnwys cyfyngu ar nifer yr aelodau sy'n mynychu.

Gweler isod am destun llawn y llythyr gan y Llywydd, Elin Jones AC, at bob Aelod Cynulliad.


Annwyl Aelodau,

Yn dilyn cyhoeddiad ar ymestyniad pellgyrhaeddol ar fesurau cyfyngu sy'n dod i rym ar Mawrth 24, rwy'n ysgrifennu i'ch hysbysu o newidiadau i fusnes y cyfarfod llawn fory.

Bydd y Cyfarfod Llawn yn cychwyn am 10am fel y disgwyl. Trefn y busnes fydd datganiad gan y Prif Weinidog ar y Coronafeirws (COVID-19), datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y Coronafeirws (COVID-19), y Cynnig Cytundeb Deddfwriaethol ar y Bil Coronafeirws, a'r newidiadau  brys i'r Rheolau Sefydlog a gytunwyd heddiw gan y Pwyllgor Busnes.

Mae Rheolwyr Busnes wedi cyrraedd cytundeb gwleidyddol i gyfyngu'r nifer o Aelodau fydd yn mynychu'r Siambr (Llywodraeth 6, Ceidwadwyr 3, Plaid Cymru 2, Plaid Brexit 1). Rwy'n annog yr aelodau annibynnol i wneud yr un fath.