Cymorth i’r diwydiant dur yng Nghymru - Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

Cyhoeddwyd 19/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/10/2016

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal cyfarfod i drafod datblygiadau yn y diwydiant dur ddydd Mercher 19 Hydref yn y Senedd yng Nghaerdydd.

Cyn y cyfarfod – a fydd yn cynnwys sesiynau tystiolaeth gan benaethiaid yn y diwydiant dur, undebau cyflogwyr a Carwyn Jones AC, y Prif Weinidog - dywedodd Russell George AC, Cadeirydd y pwyllgor:

“Ar ddechrau’r flwyddyn hon, dyfodol dur yng Nghymru oedd un o’r materion amlycaf o ran gwleidyddiaeth yng Nghymru. Ym mis Ebrill, lai na mis cyn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, aethpwyd mor bell â galw’r Cynulliad yn ôl yn ystod y toriad i drafod datblygiadau yn y diwydiant dur.

“Ers yr etholiad, bu llai o drafodaeth gyhoeddus o’r diwydiant hwn. Fel pwyllgor, roeddem yn awyddus i daflu goleuni ar yr hyn sydd wedi digwydd ers hynny, a gofyn a yw’r ymdeimlad bod angen cydweithio ac ymateb ar fyrder a oedd yn nodweddiadol o’r ymateb cyntaf i golli swyddi yn Tata Steel ym Mhort Talbot wedi parhau.

“Yn ein cyfarfod heddiw, byddwn yn clywed gan y cyflogwyr, y cyflogeion a Carwyn Jones, y Prif Weinidog. Mae’r pwyllgor hefyd wedi anfon cwestiynau ysgrifenedig manwl at Nick Hurd, un o Weinidogion Llywodraeth y DU, i ofyn sut y mae e’n mynd i’r afael â’r materion hyn ers iddo ddod yn Weinidog Gwladol dros newid yn yr hinsawdd a diwydiant.

“Mae dur yn parhau i fod yn elfen hanfodol o economi Cymru, ac mae’r Pwyllgor am sicrhau nad yw momentwm wedi’i golli ers ethol Llywodraeth newydd ym Mae Caerdydd a dewis Gweinidogion newydd yn San Steffan dros yr haf. Galwodd ein rhagflaenwyr ar y Pwyllgor Economi a Busnes am waith ar y cyd ar gostau ynni, ardrethi busnes, caffael a thariffau ar ddur o dramor – edrychaf ymlaen at drafod a yw’r camau hynny wedi’u cymryd ac a ydynt wedi bod yn ddigonol i roi rhywfaint o sicrwydd i’r diwydiant yn y tymor canolig.”

Bydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn cyfarfod am 09.20 yn Ystafell Bwyllgora 3 yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Agenda ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor.

Llun: Bear Faced - Flickr