Cymunedau yn Gyntaf yn dod o dan chwyddwydr y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Bydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn craffu ar un o raglenni amlycaf Llywodraeth Cymru, Cymunedau yn Gyntaf, ddydd Iau 3 Rhagfyr.
Bydd y Fonesig Gillian Morgan, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ynghyd ag Emyr Roberts, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus a Llywodraeth Leol, a Paul Dear, Pennaeth Cymunedau yn Gyntaf.
Dywedodd Jonathan Morgan, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: “Dyma gyfle i’r rhai sy’n arwain Cymunedau yn Gyntaf i ddweud wrthym pam y cafodd y prosiect blaenllaw hwn adroddiad mor anghanmoliaethus gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn gynharach eleni.”
“Dangosodd yr adroddiad rhai buddiannau a gafwyd gan y rhaglen, ond amlygwyd gwendidau difrifol hefyd, er fod dros £200 miliwn wedi ei wario ar wahanol brosiectau.”
Sefydlwyd y rhaglen yn 2001, gyda’r nod o wella amodau byw a rhagolygon trigolion cymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.
Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i ddod i’r cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 3 y Senedd, ym Mae Caerdydd, am 1.30pm.
Caiff y sesiwn ei darlledu’n fyw ar www.senedd.tv.