Dadl wleidyddol fywiog yn Ysgol Bryn Elian

Cyhoeddwyd 02/12/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/05/2015

Cymerodd dros gant o fyfyrwyr blwyddyn 12 sy'n astudio ar gyfer Bagloriaeth Cymru yn Ysgol Bryn Elian ym Mae Colwyn ran mewn digwyddiad ar ffurf 'Question Time' gyda phanel o wleidyddion.

Trefnwyd y digwyddiad hwn gan yr ysgol ar y cyd â Gwasanaeth Allgymorth Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru, er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd cyfranogiad democrataidd.  Roedd cyfle i'r disgyblion holi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar faterion sy'n effeithio ar eu bywydau.

Ar y panel eleni roedd Aled Roberts AC (Gogledd Cymru), Darren Millar AC (Gorllewin Clwyd), Gareth Thomas, darpar ymgeisydd Seneddol y Blaid Lafur yng Ngorllewin Clwyd, a Marc Jones darpar ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru yng Ngorllewin Clwyd.

Cafodd y digwyddiad ei gadeirio gan Tiegan Thomas a Callum Elis sy'n ddisgyblion ym Mlwyddyn 12, ac fe wnaethon nhw'n siŵr bod aelodau'r panel yn cadw at y funud a neilltuwyd iddyn nhw ar gyfer ateb cwestiynau.

Cafodd y cwestiynau gan y disgyblion eu cyflwyno ymlaen llaw, ac yn eu plith roedd materion fel sut i arafu'r cynnydd mewn gordewdra; beth y gellir ei wneud i helpu pobl ddigartref yng Nghymru, a dyfodol y Lwfans Cynhaliaeth Addysg.

Mater arall a ysgogodd ddadlau brwd oedd a ddylai'r oedran pleidleisio gael ei ostwng i 16.

Ar ôl gwrando ar farn aelodau'r panel, dywedodd Adam Kealey disgybl ym mlwyddyn 13:

"Dwi'n cefnogi'r hawl i bleidleisio yn 16 oed. Gan fod y ganran o bleidleiswyr rhwng 18 a 24 mlwydd oed yn eithaf isel, os ydych am argyhoeddi rhagor o bobl i bleidleisio, beth am ostwng yr oedran pleidleisio i 16?"

Mae hyn yn cyd-daro â sgwrs chwe mis y Cynulliad 'Pleidleisio@16' gyda phobl ifanc rhwng 11 a 25 oed yng Nghymru i gael gwybod a fyddent yn hoffi gweld yr oedran pleidleisio yn newid.

I gymryd rhan yn y sgwrs Pleidleisio@16, ewch i wefan 'Dy Gynulliad - dy lais di, dy ffordd di' yn www.dygynulliad.org lle gall pobl ifanc gymryd rhan mewn arolwg ar-lein.