Datganiad Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol ar sut y bydd yn cyflenwi gwasanaethau TGCh yn y dyfodol

Cyhoeddwyd 05/12/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Datganiad Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol ar sut y bydd yn cyflenwi gwasanaethau TGCh yn y dyfodol

Mae’r Cynulliad wedi arwain y ffordd, yn y DU ac yn rhyngwladol, o ran defnyddio technoleg i gefnogi gwaith seneddol. Mae gwasanaethau TGCh yn hanfodol i’r ffordd y mae Aelodau a’r Comisiwn yn gweithio.

Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau TGCh y Cynulliad Cenedlaethol yn rhan o gytundeb gwasanaethau ehangach Llywodraeth Cymru gyda Merlin. Fel rhan o’r cytundeb, roedd angen i’r Comisiwn benderfynu, erbyn diwedd mis Mawrth 2013, a yw am barhau yn rhan o’r contract hwnnw neu dorri’n rhydd a chychwyn trefniadau ei hun.

Nod trosfwaol y Comisiwn wrth ddod i benderfyniad oedd bod mewn sefyllfa i wella ansawdd, hyblygrwydd a’r ystod o wasanaethau a gaiff eu darparu i’r Cynulliad, Aelodau a dinasyddion Cymru dros y pum i ddeng mlynedd nesaf, heb gynnyddu’r gyllideb flynyddol ar ddarparu gwasanaethau TGCh. Yn strategol, penderfynwyd mai nawr yw’r amser cywir i ddechrau ar y broses o newid i drefniadau lle mae ganddo fwy o reolaeth dros y gwasanaethau TGCh y mae’n eu darparu fel y gall ddatblygu ei ddyheadau ar gyfer y gwasanaethau yn y dyfodol. Gan hynny, penderfynwyd peidio â pharhau o dan y cytundeb gwasanaeth gyda Merlin a bydd yn gweithio gydag Atos er mwyn trosglwyddo i’r ddarpariaeth yn 2014.