Datganiad gan Jonathan Morgan AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Cyhoeddwyd 15/12/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Datganiad gan Jonathan Morgan AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

15 Rhagfyr 2009

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried yr argymhellion a nodwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol yn ei adroddiad ar wasanaethau ar gyfer gofal heb ei drefnu, yn ôl Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Jonathan Morgan AC: “Mae gan rhai o’r gwasanaethau ar gyfer gofal heb ei drefnu ddelwedd bositif ymysg y cyhoedd. Mae pobl yn gwerthfawrogi’r gweithwyr hyfedr a phroffesiynol sy’n gweithio yn y maes hwn. Fodd bynnag, mae patrwm datgymalog gwasanaethau gofal heb ei drefnu yn gallu arwain at aneffeithlonrwydd, ansicrwydd ac oedi.

“Mae gwersi pwysig i’w dysgu o’r adroddiad hwn. Ni fydd darpariaeth gwasanaethau gofal heb ei drefnu yn gwella oni chaiff y system ei hystyried a’i thrin yn ei chyfanrwydd.

“Mae’r angen i sicrhau bod y system yn haws i’r cyhoedd ei defnyddio a’r angen i gysylltu’r gwasanaethau sy’n bodoli eisoes mewn modd mwy effeithiol yn fwy pwysig na chanolbwyntio ar fynediad i rannau penodol o’r system ddatgymalog bresennol.

“Fis nesaf, bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn briffio’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn llawn ar y mater hwn. Wedyn, byddwn yn penderfynu a oes angen i’r Pwyllgor gynnal ymchwiliad pellach.”

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus