Dirprwy Lefarydd Nepal i Ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 23/10/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Dirprwy Lefarydd Nepal i Ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Bydd Mrs Chitra Lekha Yadav, Dirprwy Lefarydd Nepal, yn ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Mercher 24 Hydref 2007 i ddysgu mwy am gynrychiolaeth merched mewn gwleidyddiaeth.   Bydd yn cyfarfod â Rosemary Butler AC y Dirprwy Lywydd, Christine Chapman AC, Joyce Watson AC a Nerys Evans AC, cyn mynd am daith o amgylch y Senedd ac ymweld â chyfleusterau Addysg y Cynulliad yn adeilad y Pierhead. Dywedodd Mrs Butler  “Rwy’n falch iawn bod Mrs Yadav yn ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru.  Mae’n dda iawn gen i glywed bod enw da Cymru fel arloeswr o ran cynrychiolaeth merched mewn gwleidyddiaeth wedi annog gwleidyddion o genhedloedd eraill i ddod i ddysgu mwy am y Cynulliad.”