Goleuo'r Senedd yn felyn

Goleuo'r Senedd yn felyn

“Cofio’r bywydau a gollwyd a’r bywydau a newidiwyd am byth” – Llywydd y Senedd

Cyhoeddwyd 24/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/03/2021   |   Amser darllen munudau

Cafodd diwrnod o fyfyrio cenedlaethol ei gynnal ar ddydd Mawrth 23 Mawrth 2021, i gofio’r bywydau a gollwyd i COVID-19, i ddangos cydymdeimlad â’r teuluoedd sy’n galaru ac i ddiolch i’r bobl sydd wedi gweithio’n ddiflino i ofalu a’n cadw’n ddiogel. 

Roedd y diwrnod yn nodi blwyddyn ers i’r cyfnod clo cyntaf ddod i rym. Yn ogystal â chofio'r bywydau a gollwyd, roedd munud o dawelwch am hanner dydd yn gyfle i bawb ystyried effaith y pandemig ar fywydau pob un ohonom. 

Ynghyd â dwsinau o adeiladau adnabyddus yng Nghymru, cafodd y Senedd ei goleuo yn felyn er cof am y pobl fu farw ac sydd wedi dioddef. 

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog - Cofio Covid

Y Senedd oedd canolbwynt y coffau yng Nghymru, wrth i’r Prif Weinidog Mark Drakeford AS arwain y teyrngedau mewn digwyddiad a ddarlledwyd yn fyw ar BBC One Wales a S4C. 

Blodau Cofio Covid

Wrth dalu teyrnged a chofio aberth y flwyddyn ddiwethaf, gosododd Llywydd y Senedd, Elin Jones AS dorch o flodau ar risiau'r Senedd. 

Cofio Covid, Elin Jones AS Llywydd

Meddai Llywydd y Senedd, Elin Jones AS: 

“Mae heddiw yn gyfle i ddangos undod ac empathi fel cenedl, fel rydyn ni wedi gwneud lawer gwaith yn ystod y flwyddyn, ac fel mae'n rhaid i ni barhau i wneud. Mewn misoedd a blynyddoedd i ddod, bydd llawer o gyfleoedd inni fel Senedd fyfyrio ar effaith y pandemig ar bob agwedd ar fywyd Cymru. Ac i ddylunio dyfodol ein cenedl. 

“Ac wrth i ni gyd-drafod a dychmygu dyfodol ein cenedl, ac wrth i’r haul ddod eto ar fryn, byddwn yn cofio’r bywydau a gollwyd a’r bywydau a newidiwyd am byth gan y clefyd hwn.” 

Cofio Covid Andrew RT Davies AS

Roedd teyrngedau hefyd gan arweinydd Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies AS, ac Adam Price AS, arweinydd Plaid Cymru. 

Cofio Covid Adam Price AS

Fe wnaeth Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, ddarllen cerdd a gomisiynwyd yn arbennig. 

Cofio Covid, Ifor ap Glyn