Yn ôl y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i werthuso marchnata a nifer y teithwyr o ran y gwasanaeth awyr rhwng Ynys Môn a Chaerdydd.
Cyn i'r contract ar gyfer y gwasanaeth awyr ddod i ben y llynedd, derbyniodd Llywodraeth Cymru naw argymhelliad a wnaed yn adroddiad interim y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y gwasanaeth awyr.
Mae'r adroddiad terfynol yn rhoi sylw i sut y mae'r gwasanaeth awyr yn gweithredu, y modd y penderfynodd Llywodraeth Cymru barhau â'r gwasanaeth sy'n hedfan ddwywaith bob diwrnod gwaith, a'r modd y cynhaliwyd yr ymarfer ail-dendro.
Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus:
"Siomedig o hyd yw nifer y teithwyr ar y gwasanaeth awyr. Felly, roeddem yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol i'n hadroddiad interim trwy ei gwneud yn ofynnol bod y contract newydd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer rhagor o farchnata.
"Yn yr adroddiad hwn, rydym yn gwneud rhagor o argymhellion ar gyfer sut y dylai Llywodraeth Cymru fonitro'r trefniadau marchnata newydd, ynghyd â nifer y teithwyr a'u proffil, er mwyn cynyddu niferoedd y teithwyr yn y dyfodol, ac yn y pen draw sicrhau bod y cymhorthdal cyhoeddus a fuddsoddwyd yn y gwasanaeth yn dwyn ffrwyth yn well.
"Trwy benderfynu a ddylid parhau â'r gwasanaeth awyr braidd yn hwyr, roedd gan Lywodraeth Cymru lai o opsiynau i gael y budd mwyaf gan weithredwyr. Rydym yn annog i Lywodraeth Cymru gynllunio'n well ar gyfer contractau sy'n dod i ben, er mwyn caniatáu penderfyniadau cynharach a'r gwerth gorau am arian trethdalwyr".