Inswleiddio ty

Inswleiddio ty

Dylid diwygio’r Dreth Gyngor a chynnig benthyciadau di-log i annog tai gwyrddach - Pwyllgor Senedd

Cyhoeddwyd 28/02/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/02/2023   |   Amser darllen munudau

Dylai diwygio’r Dreth Gyngor a’r Dreth Trafodiadau Tir fod yn rhan o becyn o gymhellion i gael perchnogion tai i wneud eu heiddo’n fwy ynni-effeithlon, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd. 

Ymchwiliodd adroddiad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith i ddatgarboneiddio tai sy'n eiddo preifat a chanfuwyd, er eu bod yn cyfrif am 80 y cant o gartrefi yng Nghymru, maent yn cael eu gadael ar ôl o'u cymharu â thai cymdeithasol. 

Nod datgarboneiddio yw lleihau faint o ynni mae tŷ yn ei ddefnyddio, ac mae'n cynnwys gwneud newidiadau (a elwir yn aml yn 'ôl-osod') fel gosod pympiau gwres yn lle boeleri, ychwanegu neu uwchraddio inswleiddio, a gwella awyru. 

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ddefnyddio ei phwerau amrywio trethi i gymell perchnogion tai i ôl-osod eu heiddo i’w gwneud yn wyrddach ac – os caiff ei weithredu – gallai hyn olygu y bydd mwy o gartrefi ynni-effeithlon yn talu llai o dreth na’r rhai sy’n defnyddio mwy o ynni.  

Gan ei fod yn debygol y bydd unrhyw newidiadau i drethi yn cymryd blynyddoedd i ddod i fodolaeth, mae’r Pwyllgor yn gofyn i'r llywodraeth ddechrau ar ei pharatoadau ar fyrder. 

Cymorth Ariannol 

Mae'r adroddiad hefyd yn canolbwyntio ar yr angen i Lywodraeth Cymru gynnig cymorth ariannol i berchnogion tai i annog ôl-osod.  

Defnyddiwyd cyllid cyhoeddus i ôl-osod tai ond hyd yn hyn, mae hyn wedi targedu tai cymdeithasol ac aelwydydd sydd mewn perygl o dlodi tanwydd yn bennaf, sy’n gadael y mwyafrif o’r 1.1 miliwn o dai sy’n eiddo preifat yng Nghymru heb gymorth ariannol i ddatgarboneiddio. 

Mae gwaith ymchwil gan Ysgol Bensaernïaeth Cymru yn amcangyfrif y byddai cost ôl-osod i gyrraedd safon 'A' y Dystysgrif Perfformiad Ynni yn costio rhwng £17k a £66.8k i'r cartref cyffredin; yn dibynnu ar y math o eiddo. 

Er nad yw'r Pwyllgor yn disgwyl i Lywodraeth Cymru dalu'r gost ar gyfer ôl-osod cartrefi'r sector preifat, mae'r adroddiad yn awgrymu y gallai'r llywodraeth dreialu gwahanol gynlluniau a fyddai'n annog perchnogion tai i fuddsoddi mewn datgarboneiddio. 

Sut allai cymorth ariannol i berchnogion tai edrych? 

Cyllid Cysylltiedig ag Eiddo  
Mae Cyllid Cysylltiedig ag Eiddo (PLF) yn cefnogi perchnogion tai trwy ariannu hyd at 100 y cant o gostau ymlaen llaw gwelliannau effeithlonrwydd ynni. Gyda'r cynllun hwn, mae'r cyllid yn cael ei 'gysylltu' â'r eiddo, yn hytrach na pherchennog yr eiddo. Ar hyn o bryd, mae llawer o berchnogion tai yn penderfynu peidio ag ôl-osod gan nad yw'r arbedion bil ynni dros eu hoes ddisgwyliedig yn yr eiddo yn ddigon i'w wneud yn fuddiol, ond mae’r trefniant hwn yn goresgyn y rhwystr hwn. Ym mis Awst 2022, cyhoeddodd Awdurdod Cyfun Manceinion Fwyaf y bydd cynllun PLF cyntaf y DU yn cael ei dreialu yno. 

Benthyciadau cost isel/di-log 
Gellid darparu benthyciadau cost isel/di-log i landlordiaid neu berchnogion tai i ariannu gwaith adeiladu a fyddai'n gwella effeithlonrwydd ynni tai. Model posibl fyddai Benthyciad Landlordiaid Sector Rhentu Preifat Llywodraeth yr Alban, sy’n darparu benthyciadau di-log o hyd at £38,500 i helpu landlordiaid i wella effeithlonrwydd ynni eu heiddo. 

 

Dim cynllun gweithredu 

Fe wnaeth yr ymchwiliad feirniadu Llywodraeth Cymru am ei diffyg gweithredu dros y blynyddoedd diwethaf, gan fynegi pryder bod diffyg eglurder yn y cynlluniau presennol.  

Bedair blynedd yn ôl, gwrthododd Llywodraeth Cymru yr un galwadau i drafod newidiadau i’r Dreth Gyngor a'r Dreth Trafodiadau Tir er mwyn cymell datgarboneiddio ac yn lle hynny, fe wnaethant ganolbwyntio ar grantiau wedi’u targedu ac ymgyrch gyhoeddusrwydd. Dywed y Pwyllgor nad yw'r dull hwn wedi gweithio. 

Mae'r adroddiad hefyd yn mynegi pryder am ddiffyg strategaeth ar ddatgarboneiddio tai sy’n eiddo preifat. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y gorffennol ei bod wrthi’n “datblygu strategaeth a chynllun cyflawni cynhwysfawr”, ond mae’r diffyg polisïau neu strategaeth gadarn ers yr ymrwymiad hwn wedi gadael y diwydiant a pherchnogion eiddo’n cael trafferth gwybod a ddylent weithredu, a sut i wneud hynny. 

Dywedodd Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, “Mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r her o wneud tai yng Nghymru yn fwy effeithlon o ran ynni. 

"Byddai tai gwyrddach nid yn unig yn well i'r amgylchedd, byddent hefyd yn insiwleiddio pobl yn well rhag prisiau ynni aruthrol. Dylid canmol y ffocws ar ôl-osod cartrefi sydd mewn tlodi, ond os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â lleihau allyriadau carbon - a biliau ynni - ni allant barhau i anwybyddu’r 80 y cant o dai sy’n eiddo preifat. 

“Rydym yn gwybod y byddai cymorth ariannol fel benthyciadau llog isel neu ddi-log yn annog pobl i ôl-osod eu heiddo. Byddai tai Cymru'n allyrru llai o garbon ac ni fyddai'r trethdalwr ar ei golled yn y pen draw ychwaith – buddugoliaeth brin. 

“Mae Llywodraeth Cymru wedi oedi ers llawer rhy hir ar y mater hwn ac rydym yn ei hannog i roi argymhellion yr adroddiad hwn ar waith er mwyn cyflawni ein hymrwymiadau hinsawdd.”