Enwi Ray Gravell yn Gawr Cymru

Cyhoeddwyd 06/08/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Enwi Ray Gravell yn Gawr Cymru

Cafodd Ray Gravell ei enwi’n hoff berson y genedl yng ngornest Cewri Cymru a drefnwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cipiodd yr arwr rygbi 21% o’r cyfanswm o 6,500 o bleidleisiau, gan guro’r gantores Katherine Jenkins, a ddaeth yn ail gyda 15% o’r bleidlais, a’r bocsiwr Joe Calzaghe a ddaeth yn drydydd gyda 13%.   

Ymhlith y deg o enwau a ddewiswyd ar y rhestr fer roedd y cantorion Tom Jones a Bryn Terfel, sêr y byd chwaraeon, Ryan Giggs a James Hook, cyn gyflwynydd Blue Peter a seren Strictly Come Dancing Gethin Jones, Hywel Dda a Dewi Sant ei hun.

Lansiodd y Cynulliad ei gais i ddewis hoff berson y genedl ar 31 Ionawr. Wedyn, yn ystod mis Chwefror, gofynnwyd i ymwelwyr â’r Senedd enwebu unigolion a chyhoeddwyd rhestr fer o ddeg ar Ddydd Gwyl Dewi.

Cymerodd ymwelwyr â’r Senedd ran yn y bleidlais, yn ogystal ag ymwelwyr ag Eisteddfod yr Urdd, Eisteddfod Llangollen a’r Sioe Frenhinol. Roedd modd pleidleisio hefyd ar-lein ar wefan y Cynulliad. Defnyddiodd plant ysgol a oedd ar ymweliadau addysgol â’r Cynulliad y weithgaredd er mwyn dysgu am bleidleisio a’r broses ddemocrataidd fel rhan o’u rhaglenni dysgu.

Wrth gyhoeddi’r canlyniad, dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad: “Roedd y rhestr fer yn cynnwys enwogion hanesyddol, tywysogion, cantorion a sêr y byd chwaraeon yr ydym, fel cenedl, yn falch iawn ohonynt. Ond mae’n addas mai Ray a enillodd, y Cymro balchaf ohonynt i gyd efallai, neu’n sicr yr un a ddangosodd ei gariad tuag at ei wlad amlycaf.”