Pobl ifanc ledled Cymru yn cael eu hannog i bleidleisio yn etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru

Cyhoeddwyd 01/11/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/11/2021   |   Amser darllen munudau

Heddiw (1 Tachwedd) yw cychwyn yr ail etholiadau erioed ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru i bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed.

Bydd pobl ifanc yn gallu bwrw eu pleidlais unrhyw bryd rhwng 1 a 22 Tachwedd, ac mae’n rhaid cofrestru i bleidleisio erbyn 12 Tachwedd fan bellaf.

Mae bron i 300 o ymgeiswyr wedi cofrestru, a bydd brwydr am y sedd ym mhob un o etholaethau Cymru. Mae’n rhaid pleidleisio’n electronig, gyda phob pleidleisiwr cofrestredig yn cael cod unigryw drwy e-bost i wirio’r bleidlais.

Yn yr un modd â’r Senedd Ieuenctid gyntaf erioed yn 2018-20, pleidleisiau pobl ifanc fydd yn penderfynu ar y 40 sedd etholaethol, a bydd yr 20 Aelod arall yn cael eu dewis gan sefydliadau partner i sicrhau cynrychiolaeth o grwpiau amrywiol o bobl ifanc.  

Mae proffiliau pob un o’r ymgeiswyr sy'n sefyll yn yr etholiad i’w gweld ar wefan Senedd Ieuenctid Cymru.

Dywedodd Maisy Evans cyn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Torfaen, “Nid ‘gwleidyddiaeth’ oedd y pynciau roeddem ni’n eu trafod  – roeddem ni’n trafod bywyd bob dydd. Yr amgylchedd, ysgolion, gwasanaethau iechyd; pob mater o bwys.

“Roedd ein hadroddiadau ar gymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl, sgiliau bywyd yn y cwricwlwm, a sbwriel a gwastraff plastig yn hynod o bwysig, a’u nod oedd dylanwadu ar waith y Senedd a Llywodraeth Cymru. Mae mor bwysig i wleidyddion weld y gwerth y gall pobl ifanc ei gynnig i drafodaethau – rhai sy'n aml yn digwydd hebddom ni.

“Rydw i eisiau gweld Senedd Ieuenctid Cymru yn mynd o nerth i nerth, felly rwy’n annog pawb rhwng 11 ac 17 oed i gofrestru i bleidleisio a bwrw eu pleidlais.” 

Dywedodd Elin Jones AS, Llywydd y Senedd, “Mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac mae’n ffordd wych i bobl ifanc ledled y wlad leisio eu barn. Mae’r Senedd Ieuenctid wedi adeiladu ar ein sesiynau addysg a’n gwaith mewn ysgolion ledled Cymru, ochr yn ochr â chyflwyno pleidleisio yn 16 oed, i ddangos ein hymrwymiad cryf i'r genhedlaeth nesaf.

“Mae gan bobl ifanc gymaint o fudd yn ein gwlad â phawb arall, ac mae Aelodau’r Senedd Ieuenctid gyntaf wedi dangos eu hangerdd, eu hawydd i weithredu a’u gallu i ddylanwadu ar benderfyniadau. Mae'r sefydliad hwn bellach yn rhan allweddol o'n democratiaeth ac mae gwaith caled a safbwyntiau'r Aelodau dros y  blynyddoedd diwethaf wedi cyfrannu mewn ffyrdd pwysig at waith y Senedd a phenderfyniadau gan Lywodraeth Cymru.

“Mae’n hanfodol bod pobl ifanc yn cael y cyfle i gyfrannu at ddemocratiaeth mor fuan â phosibl ac rwy’n falch o ymdrechion y sefydliad hwn. Rwy’n gobeithio y bydd pob person ifanc yng Nghymru yn manteisio ar y cyfle hwn i leisio’u barn a phleidleisio yn etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru.”

Caiff canlyniadau'r etholiad eu cyhoeddi ar 1 Rhagfyr, gyda'r aelodau newydd yn cwrdd am y tro cyntaf yn y flwyddyn newydd.

I gofrestru i bleidleisio, ewch i www.seneddieuenctid.cymru cyn y dyddiad cau, sef 12 Tachwedd.