Fis wedi iddo ailagor, bron i 10,000 o bobl yn ymweld â’r Pierhead

Cyhoeddwyd 06/04/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Fis wedi iddo ailagor, bron i 10,000 o bobl yn ymweld â’r Pierhead

Mae bron i ddeg mil o bobl wedi ymweld â’r Pierhead yn ystod y mis cyntaf ers iddo ailagor.

Agorwyd drysau’r adeilad nodedig yng nghanol Bae Caerdydd unwaith eto ar ddydd Gwyl Dewi eleni yn dilyn misoedd o waith adnewyddu helaeth ac mae eisoes wedi ymsefydlu fel un o brif atyniadau’r brifddinas.

Mae’r cyn-gartref i Gwmni Rheilffyrdd Caerdydd bellach yn cynnwys, ymhlith nodweddion eraill, arddangosfa barhaol sy’n adrodd hanes y Pierhead a dociau Caerdydd a bwrdd bwyta rhyngweithiol â rhai o bobl mwyaf eiconig Cymru a nwyddau o long y Capten Scott, y Terra Nova enwog a gychwynnodd hwylio i gyfeiriad yr Antarctig o Gaerdydd ym 1910.

Mae gan y Pierhead rôl unigryw fel adeilad sy’n cyfuno man i gynnal digwyddiadau ac atyniad i ymwelwyr. Un o’r digwyddiadau sydd eisoes wedi’u cynnal yno yw arddangosfa yn dangos gwaith y ffotonewyddiadurwr o Gymro, Philip Jones Griffiths, a Sesiynau agoriadol y Pierhead. Roedd y sesiynau, a alwyd gan rai ‘Y Gelli i Gaerdydd’ (‘Hay in the Bay’), yn gyfres o sgyrsiau a thrafodaethau ar faterion gwleidyddol a diwylliannol amrywiol sy’n effeithio ar Gymru heddiw.

Dywedodd Gwen Thomas, y Rheolwr Gwasanaethau Gwybodaeth i’r Cyhoedd ac i Ymwelwyr: “Rydym wrth ein bodd gyda’r nifer o ymwelwyr â’r Pierhead ers iddo ail-agor.

“Pan ddechreuwyd cynllunio ar gyfer adnewyddu’r Pierhead y nod oedd rhoi gwybod hanes yr adeilad a hanes Bae Caerdydd i bobl a sicrhau lleoliad hygyrch a hyblyg ar gyfer cynnal digwyddiadau ac arddangosfeydd ar yr un pryd.

“Cynhaliwyd rhai digwyddiadau cyffrous eisoes yn y Pierhead yn cynnwys Sesiynau llwyddiannus y Pierhead a oedd yn cynnwys anerchiad gan yr awdur a’r amgylcheddwr George Monbiot.

“Gobeithiwn fod y Pierhead wedi sefydlu pennod newydd yn ei hanes ac y bydd mwy byth o bobl yn dod yma i’w fwynhau yn y dyfodol.”

Mae’r Pierhead yn agored i ymwelwyr chwe diwrnod yr wythnos ac mae modd ei archebu ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan www.pierhead.org. Neu gallwch e-bostio info@pierhead.org neu ffonio’r llinell archebu ar y rhif 0845 010 5500.