Galw am dystiolaeth fideo am y tro cyntaf erioed - wrth i un o bwyllgorau’r Cynulliad ddechrau ar ei ymchwiliad i lifogydd

Cyhoeddwyd 30/04/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Galw am dystiolaeth fideo am y tro cyntaf erioed - wrth i un o bwyllgorau’r Cynulliad ddechrau ar ei ymchwiliad i lifogydd

Mae Pwyllgor Cynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru am weld y lluniau sy’n dweud hanes llifogydd yn eich ardal chi.

P’un ai’ch cartref chi’ch hun ynteu’ch cymdogaeth leol gafodd eu difrodi gan lifogydd, mae’r Pwyllgor am weld eich lluniau.

Lansiwyd yr ymgynghoriad yn Ysgol Sant Richard Gwyn, y Barri , gan i’r ysgol ddioddef yn arw oherwydd llifogydd ym mis Gorffennaf 2007.  

Cafwyd  cyflwyniad ar y difrod a wnaed i’w cymunedau o ganlyniad i’r llifogydd gan ddisgyblion yr ysgol.

“Mae llifogydd yn broblem sydd effeithio ar bob rhan o Gymru”, meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Mick Bates AC.

“Rydym am glywed am brofiadau’r rhai sydd wedi gweld eu cartrefi, eu cymunedau a’u gwaith yn dioddef oherwydd llifogydd. Dyna pam rydym am roi lle canolog i’r bobl hyn yn yr ymchwiliad.

“Gyda’ch tystiolaeth chi gallwn ddarganfod y gwir straeon y tu ôl i’r penawdau yn y wasg ac asesu gwir gost llifogydd yng Nghymru i’r rheini sydd wedi dioddef yn y gorffennol ac a allai ddioddef yn y dyfodol.

“Dim ond wedyn bydd modd i ni, fel Aelodau’r Cynulliad, ddechrau chwilio am atebion i’r hyn sydd, mewn nifer o achosion, yn broblem sy’n debygol o godi eto’n rheolaidd.”  

Mae’r Pwyllgor yn eich gwahodd i anfon ffeiliau fideo o’ch ffôn mewn unrhyw fformat a thapiau fideo o’ch camerâu fideo.

Ond er mwyn sicrhau bod pob un fideo’n cael ei gweld, a fyddech cystal â gofalu nad oes yr un ohonynt yn para mwy nag UN MUNUD.

Anfonwch eich fideo drwy’r e-bost i Sustainablilty.comm@wales.gsi.gov.uk  neu drwy’r post i’r Pwyllgor Cynaliadwyedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Ty Hywel, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

Yna caiff y fideos eu postio ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol:  

http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-committees/bus-committees-third1/bus-committees-third-sc-home/inquiries_sd.htm

Byddant wedyn yn cael eu cynnwys fel tystiolaeth yn ymchwiliad y Pwyllgor.

Lansio ymgynghoriad yn ysgol St Richard Gwyn yn y Barri

Lansio ymgynghoriad yn ysgol St Richard Gwyn yn y Barri

Lansio ymgynghoriad yn ysgol St Richard Gwyn yn y Barri