Gwahodd pobl i ddangos eu parch i'r cyn-Brif Weinidog, Rhodri Morgan

Cyhoeddwyd 17/05/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/05/2017

Gwahoddir pobl i dalu eu teyrngedau personol eu hunain i gyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, a fu farw yn 77 oed.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi agor llyfr coffa yn y Senedd ym Mae Caerdydd ac yn swyddfa'r Cynulliad ym Mae Colwyn.

Daeth Mr Morgan yn Aelod Seneddol ym 1987 ac yn Aelod Cynulliad pan ddechreuodd y Cynulliad gyntaf ym 1999.

Roedd yn Brif Weinidog Cymru rhwng 2000 a 2009 cyn rhoi'r gorau i'w sedd yn y Cynulliad yn 2011.

Fel arwydd o barch, mae pob baner ar draws ystâd y Cynulliad wedi ei hanner-gostwng.

Bydd Aelodau'r Cynulliad, staff ac ymwelwyr yn cymryd rhan mewn munud o dawelwch yn y Senedd am 12.30.

Cyhoeddir rhagor o deyrngedau cyn gynted ag y bo modd.

Meddai Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

“Rwy’n drist iawn i glywed am farwolaeth Rhodri Morgan, ac ar ran Aelodau a staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, hoffwn fynegi fy nghydymdeimlad lwyr gyda Julie a’r teulu.

“Fel Prif Weinidog Cymru, bu cyfraniad Rhodri i’r broses o adeiladu ein cenedl a’n democratiaeth ifanc yn amhrisiadwy. Roedd yn ffigwr poblogaidd, agos at bobl Cymru ac roedd yn benderfynol o angori’r sefydliad yn y meddylfryd cenedlaethol. Cyfranodd hyn yn bositif tuag at sefydlogi datganoli gan feithrin balchder yn ein sefydliad newydd.

“Fe gofiaf sut y llywiodd drafodaethau polisi y Cabinet mewn modd gynhwysol fyddai’n adlewyrchu barn gwleidyddion y Senedd a chymunedau ar lawr gwlad fel eu gilydd.

“Llwyddodd dawn Rhodri i ddeall a chyfathrebu gyda chymunedau amrywiol Cymru i leoli’r Cynulliad yng nghalonnau ein pobl, a bu’n ganolog i’r broses o adeiladu hyder pobl Cymru i gryfhau a datblygu ein Cynulliad Cenedlaethol.

“Byddwn bob amser yn ddiolchgar i Rhodri am ei arweinyddiaeth, ac fe’i gofiwn fel un o gewri gwleidyddiaeth Cymru.