Gwleidyddion i gael eu holi gan fyfyrwyr gogledd Cymru ar gyfer Wythnos Ddemocratiaeth Leol

Cyhoeddwyd 21/10/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Gwleidyddion i gael eu holi gan fyfyrwyr gogledd Cymru ar gyfer Wythnos Ddemocratiaeth Leol

21 Hydref 2009

Cymerodd dros 100 o fyfyrwyr gwleidyddiaeth blynyddoedd 11 a 12 Ysgol Bryn Elian yn y Gogledd ran mewn digwyddiad ‘Hawl i Holi’ gyda phanel o wleidyddion ddydd Gwener (16 Hydref) fel rhan o’r Wythnos Ddemocratiaeth Leol.

Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan Wasanaeth Allgymorth Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac roedd yn pwysleisio pa mor bwysig yw cyfranogiad democrataidd. Roedd yn gyfle hefyd i’r bobl ifanc holi’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau ar faterion sy’n cael effaith ar eu bywydau.

Roedd Eleanor Burnham, yr Aelod Cynulliad, ar y Panel, ynghyd â Janet Finch-Saunders, Arweinydd Grwp y Ceidwadwyr ar Gyngor Sir Conwy a’r darpar ymgeiswyr seneddol Llyr Huws Gruffydd a Donna Hutton.  

Roedd y cwestiynau gan y disgyblion wedi cael eu cyflwyno ymlaen llaw, ar bynciau o’u dewis hwy, ac roedd y themâu eleni’n cynnwys addysg, trosedd a’r argyfwng ariannol.

Dau o ddisgyblion yr ysgol oedd yn cadeirio’r digwyddiad ac yn sicrhau bod y panel yn cadw at y cyfyngiad amser o ‘1 funud’ ar gyfer ateb cwestiynau. Nid oedd y panel wedi gweld y cwestiynau hynny ymlaen llaw.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad, “Roedd hwn yn gyfle gwych i bobl ifanc ddysgu am y broses ddemocrataidd yng Nghymru a herio gwleidyddion am yr hyn y gallant ei wneud i wella ein cymunedau a gwneud newidiadau i fywydau pobl ifanc.”

“Roedd safon y cwestiynau’n uchel iawn ac roedd y bobl ifanc a gymerodd ran yn amlwg yn ymwybodol iawn o faterion llosg y dydd”.