Gwleidyddion i gael eu holi gan fyfyrwyr yn y Gogledd

Cyhoeddwyd 15/10/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Gwleidyddion i gael eu holi gan fyfyrwyr yn y Gogledd

Heddiw (15 Hydref), bydd dros 100 o fyfyrwyr blwyddyn 12, sy’n astudio Bagloriaeth Cymru yn Ysgol Gyfun Bryn Elian ym Mae Colwyn, yn cymryd rhan mewn digwyddiad ‘Hawl i Holi’ gyda phanel o wleidyddion fel rhan o Wythnos Democratiaeth Leol.

Mae’r digwyddiad, a gaiff ei drefnu gan Wasanaeth Allgymorth Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn pwysleisio pa mor bwysig yw cyfrannu at ddemocratiaeth ac yn cynnig cyfle i ddisgyblion holi’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau ar faterion sy’n cael effaith ar eu bywydau.

Y panel eleni fydd Brian Cossey – Aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Cynghorydd dros Golwyn, Carrie Harper – Aelod o Blaid Cymru a Chynghorydd Sir yn Wrecsam, Crispin Jones – darpar ymgeisydd Llafur dros Orllewin Clwyd yn Etholiad y Cynulliad ym mis Mai 2011, a Darren Millar – yr AC dros Orllewin Clwyd.

Mae cwestiynau gan y disgyblion wedi cael eu cyflwyno ymlaen llaw, ar bynciau o’u dewis hwy, ac eleni mae’r themâu’n cynnwys yr amgylchedd ac addysg.

Dau o ddisgyblion yr ysgol fydd yn cadeirio’r digwyddiad ac yn sicrhau bod y panel yn cadw at y cyfyngiad amser o un funud ar gyfer ateb cwestiynau. Ni fydd y panel wedi gweld y cwestiynau ymlaen llaw.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad: “Mae hwn yn gyfle gwych i bobl ifanc ddysgu am y broses ddemocrataidd yng Nghymru ac i herio gwleidyddion am yr hyn y gallant ei wneud i wella ein cymunedau a gwneud newidiadau i fywydau pobl ifanc.

“Does gen i ddim amheuaeth y bydd safon y cwestiynau am faterion llosg y dydd yn uchel iawn.”