Helen Clark i annerch cynulleidfa yn y Pierhead

Cyhoeddwyd 30/03/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Helen Clark i annerch cynulleidfa yn y Pierhead

30 Mawrth 2012

Bydd Helen Clark, cyn Brif Weinidog Seland Newydd yn annerch cynulleidfa gyhoeddus yn adeilad Pierhead y Cynulliad ar 11 Ebrill, cyn ateb cwestiynau.

Bu Mrs Clarke yn Brif Weinidog am dri thymor yn olynol, rhwng 1999 a 2008, cyn dod y fenyw gyntaf i ddal swydd Gweinyddwr Rhaglen Datblygu’r Cenhedloedd Unedig (UNDP).

Rhestrodd y cylchgrawn Forbes hi fel yr 20fed menyw fwyaf dylanwadol yn y byd yn 2006.

Mae’n annerch yn y Pierhead fel rhan o gyfres o ddarlithoedd gan ffigurau cyhoeddus allweddol, ac mae tocynnau ar gael i’r cyhoedd ar sail ‘y cyntaf i’r felin.

Gellir cael tocynnau am ddim trwy gysylltu â’r llinell wybodaeth ar 0845 010 5510 neu drwy anfon e-bost at archebu@cymru.gov.uk.

“Mae’n wych bod ffigwr mor ddylanwadol o lwyfan y byd yn ymweld â ni yn y Cynulliad,” meddai’r Llywydd, Rosemary Butler AC.

“Mae’n dilyn ymweliad llwyddiannus Archesgob Caergaint ar 26 Mawrth, lle’r oedd cynulleidfa gyhoeddus yn gallu gofyn cwestiynau i ffigwr mor arwyddocaol ym mywyd Prydain.

“Gydag ymweliad Helen Clark, rydym yn rhoi cyfle i’r cyhoedd yng Nghymru ofyn cwestiynau i ffigwr blaenllaw’r byd.

“Dyna un o’r rhesymau pam ein bod wedi creu’r Pierhead fel cyfleuster, er mwyn darparu fforwm i bobl Cymru drafod materion mawr y dydd gyda ffigurau cyhoeddus allweddol.

“Rwy’n edrych ymlaen at glywed yr hyn fydd gan Mrs Clark i’w ddweud ar amrywiaeth o faterion diddorol, yn enwedig y cydbwysedd rhwng y rhywiau mewn gwleidyddiaeth, oherwydd cynyddu cyfranogaeth merched yw un o fy nodau strategol allweddol yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn y swydd.”