Llunio dyfodol senedd ieuenctid i Gymru

Cyhoeddwyd 28/04/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/04/2017

​Mae cyfle i bobl ifanc lunio senedd ieuenctid newydd i Gymru a fydd yn rhoi llais iddynt drafod y materion sy'n bwysig iddyn nhw.

 

 

Lansiwyd yr ymgynghoriad yn ffurfiol gan Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ei hen ysgol, sef Ysgol Bro Pedr yn Llanbedr Pont Steffan.

Mae'r ymgynghoriad yn gofyn i bobl ifanc feddwl am enw i'r senedd ieuenctid, ei nod, pwy fydd yr aelodau, a beth fydd ei rôl a'i gwerthoedd.

Mae senedd ieuenctid yn rhan allweddol o ymrwymiad Comisiwn y Cynulliad i roi llais i blant a phobl ifanc ar lefel genedlaethol. Roedd holl bleidiau'r Cynulliad o blaid sefydlu senedd o'r fath.

Mae'n dilyn cyhoeddi'r Siarter Ymgysylltu â Phobl Ifanc yn 2014, a oedd yn ymrwymo i sicrhau y byddai'r Cynulliad yn arwain y ffordd yn rhyngwladol wrth ymgysylltu â phobl ifanc.

"Mae gennym ddyletswydd nid yn unig i bleidleiswyr heddiw, ond i'r holl ddinasyddion y mae gwaith y Cynulliad yn cyffwrdd â'u bywydau nhw," dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

"Mae hwn yn gyfle i blant a phobl ifanc gymryd rhan fel dinasyddion. Mae'r ymgynghoriad yn gyfle i feddwl o'r newydd am sut i roi hyn ar waith.

"Rwy'n falch iawn o gael lansio'r ymgynghoriad hwn a fydd yn rhoi llais iddynt ar lefel genedlaethol ac yn rhoi system ar waith a fydd yn dylanwadu'n fawr ar waith ein Senedd a'r penderfyniadau a wneir yng Nghymru."

Ers cyhoeddi'r bwriad i sefydlu senedd ieuenctid ym mis Hydref y llynedd, mae'r Cynulliad wedi bod yn gweithio gyda grŵp llywio er mwyn paratoi'r ffordd. Mae'r grŵp hwnnw'n cynnwys Comisiynydd Plant Cymru, Youth Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Plant yng Nghymru, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS), Scouts Cymru, GirlGuiding Cymru, Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru ac Ymgyrch Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru (CPPIC).

Dywedodd Elin Jones:

"Mae cyfraniad y grŵp llywio wedi bod yn hynod werthfawr, gan ganolbwyntio o'r dechrau ar sicrhau bod y genhedlaeth iau yn rhan ganolog o'r broses.

"Bydd plant a phobl ifanc yn ein hysbrydoli ni i gyd i feddwl yn wahanol am ddyfodol ein cenedl. Maen nhw'n aml yn meddwl am syniadau gwreiddiol ac yn cynnig safbwyntiau gwerthfawr ar faterion cymhleth.

"Mae'n rhaid i ni roi cymorth iddynt drafod y materion sy'n bwysig iddyn nhw, dod o hyd i ffyrdd y gallant ddylanwadu, ac yn bwysicach oll, mae'n rhaid i ni wrando."

Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 30 Mehefin a bydd yn cynnwys Eisteddfod yr Urdd a gynhelir ym Mhen-y-bont ar Ogwr rhwng 29 Mai a 3 Mehefin. Cynhelir digwyddiadau rhanbarthol ledled Cymru hefyd, gan gynnwys Wythnos Gwaith Ieuenctid Cymru rhwng 23 a 30 Mehefin.

Dyma'r digwyddiadau rhanbarthol:

  • 13 Mai – Neuadd y Dref, Dinbych (10.30 – 12.30)
  • 20 Mai - Llangrannog, Bae Ceredigion (10.30 – 12.30)
  • 30 Mai - Glan Llyn, Y Bala (13.00 – 15.00)
  • 31 Mai - Canolfan Halliwell, Caerfyrddin (10.00 – 12.00)
  • 31 Mai - YMCA Abertawe, Abertawe (14.00 – 16.00)
  • 10 Mehefin – Stadiwm Cwmbrân, Cwmbrân (10.00 – 12.00)
  • 10 Mehefin – Y Pierhead, Caerdydd

Bydd rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad a'r digwyddiadau rhanbarthol, gan gynnwys sut i gymryd rhan, ar gael o wefan y senedd ieuenctid - www.seneddieuenctid.cymru / www.youthparliament.wales.

Cyhoeddir canfyddiadau'r ymghynghoriad yn ddiweddarach eleni.