Llysgennad Denmarc yn ymweld â’r Senedd i nodi Llywyddiaeth Denmarc o Gyngor yr Undeb Ewropeaidd
10 Ionawr 2012
Daeth Llysgennad Denmarc i’r DU, sef Anne Hedensted Steffensen, i ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw wrth i Ddenmarc ddechrau ar ei llywyddiaeth o Gyngor yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r aelod-wladwriaethau’n cymryd eu tro i lywyddu Cyngor y Gweinidogion ac mae Denmarc yn cymryd yr awenau oddi wrth Wlad Pwyl am y chwe mis nesaf. Mae gan y Llywyddiaeth ddau brif orchwyl. Y cyntaf yw cynllunio a chadeirio cyfarfodydd Cyngor yr UE a’r prif gyrff eraill. Yr ail yw cynrychioli’r Cyngor pan fydd yn ymwneud â sefydliadau eraill yr UE, gan gynnwys y Comisiwn a Senedd Ewrop.
Ymwelodd Ms Steffenson â’r Senedd lle cyfarfu â’r Llywydd, Rosemary Butler AC, i amlinellu rhaglen Llywyddiaeth Denmarc.
“Mae’n bwysig bod gan Gymru lais cryf yn Ewrop” meddai’r Llywydd.
“Rydym wedi elwa, ac yn parhau i elwa, o arian Ewropeaidd sy’n hanfodol i hybu twf ein cymunedau mwyaf difreintiedig.
“Yn y cyfnod economaidd anodd hwn, mae’n bwysicach nag erioed o’r blaen fod llais Cymru yn cael ei glywed.
“Dyna pam rwy’n hynod falch o groesawu Llysgennad Denmarc i’r Senedd er mwyn i Gymru fedru meithrin cysylltiadau â Llywyddiaeth newydd yr UE a sicrhau bod ei blaenoriaethau’n cael eu clywed.”
Yn ystod ei hymweliad, cafodd y Llysgennad gyfle i gyfarfod â’r Dirprwy Lywydd, David Melding AC a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC.
Cyfarfu hefyd â chadeiryddion holl bwyllgorau’r Cynulliad. Dyma’r tro cyntaf y cynhaliwyd digwyddiad o’r fath i gyfarfod â swyddog o dramor.
Mae Llywodraeth Denmarc yn dweud mai un o’r phrif flaenoriaethau yn ystod ei Llywyddiaeth fydd mynd i’r afael ag argyfwng Parth yr Ewro a datblygu Ewrop fwy cyfrifol.
Mae’r nod hwn hefyd yn cynnwys bwrw ymlaen â thrafodaethau yn y Cyngor ynghylch dyfodol fframwaith ariannol amlflwydd yr UE ar gyfer 2014-20, er mwyn sicrhau cytundeb yn yr hydref o dan Lywyddiaeth Cyprus.
Mae hyn yn arbennig o bwysig i Gymru gan y bydd yn pennu faint o arian a fydd ar gael i Gronfeydd Strwythurol yr UE, y Polisi Amaethyddol a rhaglenni ymchwil ac addysg yr UE .
Dywedodd Ms Steffensoen ei bod yn falch o’r cyfle i gyflwyno rhaglen Llywyddiaeth Denmarc yng Nghaerdydd.
Ychwanegodd mai un o brif flaenoriaethau’r Llywyddiaeth oedd sicrhau twf a chreu swyddi ym mhob rhan o Ewrop.
“Y Farchnad Sengl yw conglfaen cydweithrediad yr UE”, meddai’r Llysgennad.
“Nod Llywyddiaeth Denmarc yw cyfrannu’n adeiladol at ddatblygiad y Farchnad Sengl drwy gyfrwng nifer o fentrau.
“Mae angen Marchnad Sengl yn fwy nag erioed o’r blaen i greu gwaith ac i sicrhau bod pobl a chwmnïau Ewropeaidd yn ffynnu.”