Llywodraeth Cymru ddylai reoli’r ffrydiau cyllido fydd yn disdodli cronfeydd yr UE yng Nghymru

Cyhoeddwyd 26/09/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/09/2018

 

Llywodraeth Cymru ddylai reoli'r hyn a fydd yn disodli cronfeydd presennol yr UE sy'n dod i Gymru, yn ôl Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Cymru ar hyn o bryd yn elwa o oddeutu £680 miliwn drwy Gyllid Strwythurol, y Polisi Amaethyddol Cyffredin, Horizon 2020 a photiau cyllido eraill o Frwsel.

Defnyddir Cyllid Strwythurol i fuddsoddi yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Ewrop, gan gynnwys gorllewin Cymru a chymoedd Cymru. Mae'r Polisi Amaethyddol Cyffredin, neu'r PAC, wedi cael cryn effaith ar ffermydd unigol, yn enwedig o ystyried yr ymylon ariannol tyn sy'n gysylltiedig â'r sector amaethyddol.

Mae Llywodraeth y DU wedi amlinellu 'Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU' i ddisodli cyllid strwythurol, ond mae'r Pwyllgor yn poeni nad oes fawr ddim manylion ynghylch sut y byddai'r gwaith disodli yn gweithio.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn amlygu sut y dylai'r dyraniadau o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU fod yn seiliedig ar angen ar draws y pedair gwlad. Mae gan Gymru ardaloedd sydd â rhai o'r Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) isaf o'r holl ranbarthau yn Ewrop ac mae'r Pwyllgor o'r farn ei bod yn hanfodol sicrhau bod yr un lefel o gyllid yn cael ei sicrhau i Gymru.

Mae'r dystiolaeth yn cyflwyno achos cryf i Gymru beidio â bod ar ei cholled o’r un geiniog o ganlyniad i Brexit, ac i Lywodraeth Cymru reoli a gweinyddu cyfran Cymru o'r Gronfa i gyflawni blaenoriaethau Cymru.

Mae'r Pwyllgor yn gweld cyfle i lunio dull strategol ar gyfer Cymru sy'n rhydd o gyfyngiadau'r UE.

Gyda'r mwyafrif o'r penderfyniadau pwysig sy'n ymwneud ag arian ar ôl Brexit ar gyfer Cymru yn nwylo Llywodraeth y DU, mae'r Pwyllgor yn siomedig gyda'r diffyg ymgysylltiad hyd yma gan weinidogion yn Llundain ar y mater hwn sydd o bwysigrwydd arwyddocaol.

Dywedodd Llyr Gruffydd AC, Cadeirydd dros dro y Pwyllgor Cyllid, “Brexit yw'r broblem fwyaf sy'n ein hwynebu heddiw, a bydd yn cael effaith fawr ar Gymru.

“Credwn fod y canfyddiadau'n ffurfio achos cryf i Gymru o ran sut y dylid rhannu cyllid ar ôl inni ymadael â'r UE, ac na ddylai Cymru fod geiniog ar ei cholled o ganlyniad i hynny.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gydweithio i sicrhau y ceir y fargen orau i Gymru, ond bod y gwaith o reoli a gweinyddu cyfran Cymru yn aros yng Nghymru.”

Mae David Rees AC, aelod o'r Pwyllgor Cyllid, hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad, sydd wedi cynnal cyfres o ymchwiliadau sy'n edrych ar effaith Brexit ar Gymru:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi meithrin arbenigedd a phrofiad dros yr 20 mlynedd diwethaf o reoli cronfeydd yr UE yn uniongyrchol. Mae gan Gymru eisoes bartneriaethau wedi'u sefydlu a'r strwythurau angenrheidiol ar waith i gyflwyno rhaglenni llwyddiannus, a rhaid i'r dull hwn barhau i sicrhau Brexit llwyddiannus i Gymru.”

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 11 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • bod Llywodraeth Cymru yn cyd-drafod â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau o leiaf yr un swm o arian i Gymru yn y lle cyntaf drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU â’r hyn y mae’n ei gael ar hyn o bryd drwy Gronfeydd Strwythurol, ynghyd â chwyddiant. Dylid ychwanegu hyn at Grant Bloc Llywodraeth Cymru, a dylai’r trefniant barhau;

  • bod Llywodraeth Cymru yn cyd-drafod gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am weinyddu a rheoli Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yng Nghymru; a

  • bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill i sicrhau bod fframwaith y Deyrnas Unedig gyfan ar gyfer cymorth amaethyddol yn parchu'r setliad datganoli ac yn rhoi'r hyblygrwydd mwyaf posibl i Lywodraeth Cymru i'w galluogi i wneud penderfyniadau sy'n cefnogi anghenion penodol y sector rheoli tir yng Nghymru.  

Bydd yr adroddiad nawr yn cael ei drafod gan Lywodraeth Cymru.

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru pan fydd y DU yn gadael yr UE (PDF, 2 MB)