Llywydd y Cynulliad yn annog gweithredu dros gynrychiolaeth menywod

Cyhoeddwyd 28/01/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Llywydd y Cynulliad yn annog gweithredu dros gynrychiolaeth menywod

28 Ionawr 2013

Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi ysgrifennu at arweinwyr y pedair plaid wleidyddol yng Nghymru i nodi’r mater o gynrychiolaeth menywod.

Cafodd fandad i ysgrifennu’r llythyr yn dilyn pleidlais unfrydol yn ystod cynhadledd Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus a gynhaliwyd yn y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Tachwedd.

Yn ei llythyr, mae’r Llywydd yn cyfeirio at y gostyngiad a fu ers 2006 yn nifer Aelodau’r Cynulliad sy’n fenywod.

Dywedodd, “Llwyddom i gael cynrychiolaeth o 50 y cant yn 2003, a chododd hynny i 52 y cant yn 2006 gan olygu bod y Cynulliad ar flaen y gad o ran cynrychiolaeth menywod mewn gwleidyddiaeth.

“Ar ôl etholiadau 2007 a 2011, rydym wedi gweld dirywiad yn yr ystadegau gwych hyn ac er bod y rhagolygon gwreiddiol wedi awgrymu y byddai cynrychiolaeth menywod yn dirywio ymhellach nag y gwnaeth yn 2011, mae’n peri pryder i mi y byddwn yn gweld dirywiad pellach os na fydd y pleidiau gwleidyddol yn mynd i’r afael â’r mater cyn yr etholiadau yn 2016.”

Roedd cynhadledd Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus ym mis Tachwedd yn benllanw cyfres o seminarau â menywod a gynhaliwyd ar draws pum rhanbarth etholiadol Cymru yn ystod y naw mis diwethaf.

Dywedodd y Llywydd, “Bu’r digwyddiadau hyn yn ysbrydoledig.”

“Gwnaeth cynifer o fenywod dawnus a galluog o wahanol gefndiroedd a gwahanol rannau o Gymru gymryd rhan, gam godi materion ynghylch y rhwystrau i fenywod nid yn unig gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth rheng flaen ond i ymgeisio am swyddi cyhoeddus fel llywodraethwyr ysgol, ynadon neu swyddi gyda chyrff cyhoeddus eraill.

“Cefais fandad gan y gynhadledd i ysgrifennu at arweinwyr y pleidiau ar fater penodol cynrychiolaeth menywod yn y Cynulliad.

“Amgaeais hefyd gopi o friff gan y Gymdeithas Newid Etholiadol a ganfu fod cael cynrychiolaeth menywod mewn bywyd cyhoeddus wedi arwain at bolisïau pendant ac at greu arferion gweithio sy’n fwy addas i deuluoedd yn y sefydliadau datganoledig sydd o fantais i fenywod a dynion.”

Mae’r Llywydd wedi gofyn i’r arweinyddion ystyried unrhyw fesurau y gallant eu rhoi ar waith a allai roi terfyn ar y gostyngiad yn nifer Aelodau’r Cynulliad sy’n fenywod.