Optometrydd

Optometrydd

“Mae angen cyllideb arnom sy’n canolbwyntio ar wella gwasanaethau cyhoeddus a rhoi hwb i’r economi” - Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid

Cyhoeddwyd 21/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/09/2021   |   Amser darllen munudau

 

Wrth i Gymru ddechrau gwella o effaith pandemig Covid-19, mae Pwyllgor Cyllid y Senedd yn lansio ei ymgynghoriad cyhoeddus ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru (2022/23) – y gyllideb gyntaf ers etholiad y Senedd eleni.

Ar ran pobl Cymru, bydd pwyllgorau'r Senedd yn edrych ar y blaenoriaethau a'r manylion a gaiff eu cynnig ar gyfer Cyllideb Llywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf.

Daw'r Gyllideb ddrafft ar adeg ar ôl i swm digynsail o arian gael ei wario ar bandemig COVID-19. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dal symiau sylweddol o arian yn ôl mewn cronfeydd wrth gefn i fynd i'r afael â'r pandemig.

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn gwrando ar y cyhoedd yng Nghymru er mwyn deall beth yw blaenoriaethau pobl ar gyfer gwariant a chael eu barn ar y gyllideb sydd i ddod, gan gynnwys blaenoriaethau ar gyfer gwariant ac a ddylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r pwerau benthyca a chodi trethi sydd ar gael iddi ai peidio.

Bydd y Pwyllgor yn edrych ar gyllideb gyffredinol Llywodraeth Cymru tra bydd Pwyllgorau eraill y Senedd yn edrych ar wariant arfaethedig ar gyfer pob un o adrannau Llywodraeth Cymru.

Er mwyn helpu'r Pwyllgorau i edrych ar flaenoriaethau gwariant, mae Aelodau'r Senedd am glywed blaenoriaethau pobl ledled Cymru.

Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS, Cadeirydd newydd y Pwyllgor Cyllid;

“Mae angen i’r adferiad o’r pandemig fod yn greadigol ac yn uchelgeisiol. Y llynedd, gwelsom Lywodraeth Cymru yn dal symiau sylweddol o arian yn ôl mewn cronfeydd wrth gefn i roi hyblygrwydd i ddelio gyda’r pandemig. Mae angen cyllideb arnom nawr sy’n canolbwyntio ar wella gwasanaethau cyhoeddus a rhoi hwb i’r economi.

"Ar ran pobl Cymru, bydd Pwyllgorau'r Senedd yn archwilio cyllideb Llywodraeth Cymru, gan sicrhau bod dyraniadau'n cyfateb i ddisgwyliadau'r cyhoedd ac yn dwyn y Gweinidogion i gyfrif o ran eu cynigion.

"Rydym am glywed barn y cyhoedd i sicrhau bod cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru yn cael eu llywio gan anghenion pobl Cymru."

Mae'r Pwyllgor Cyllid eisoes wedi galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i geisio ymrwymiadau gan Lywodraeth y DU i adfer setliadau aml-flwyddyn, yn dilyn nifer o flynyddoedd o ansicrwydd ynghylch cyllid oherwydd Brexit a'r pandemig. Mae'r Canghellor bellach wedi cyhoeddi y bydd setliad 3 blynedd yn dychwelyd, ac mae'r Pwyllgor yn gobeithio y bydd hyn yn rhoi mwy o sicrwydd ariannol i wasanaethau cyhoeddus dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn lansio cyfres o grwpiau ffocws gyda phobl ledled Cymru ochr yn ochr â'i ymgynghoriad, sy'n dod i ben ar 26 Tachwedd 2021.