Mae angen deialog adeiladol i symud ymlaen â'r broses o uno cynghorau, meddai Pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 02/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/03/2016

Mae deialog agored ac adeiladol yn allweddol i sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol i uno awdurdodau lleol Cymru yn llwyddiannus, meddai un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi bod yn trafod Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft a allai, o'i basio, arwain at ostyngiad yn nifer yr awdurdodau lleol yng Nghymru o'r 22 presennol i wyth neu naw. Byddai'r Bil hefyd yn gwneud newidiadau i'r ffordd y mae awdurdodau'n gweithredu.

Cydnabu'r Pwyllgor fod y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews AC, yn awyddus i symud ymlaen â'r broses uno er mwyn rhoi terfyn ar yr ansicrwydd y mae llywodraeth leol, a staff cynghorau yn arbennig, yn ei wynebu. Pwysleisiodd fod angen i'r Gweinidog barhau i gymryd rhan mewn deialog agored ac adeiladol gyda'r sector i sicrhau bod nifer a ffurf derfynol yr awdurdodau yn ymarferol ac yn gallu para.

Er bod y Pwyllgor yn cydnabod y posibilrwydd o arbedion yn sgil y broses uno yn y tymor canolig i'r tymor hir, mae'n pryderu ynghylch gallu awdurdodau i dalu'r costau uno uniongyrchol. Mae'n gofyn i'r Gweinidog ystyried a ellid cynnig grantiau ad-daladwy i awdurdodau i'w helpu i dalu'r costau hyn.

Mae'r Pwyllgor hefyd yn pryderu am yr effaith bosibl o gysoni'r dreth gyngor a chysoni tâl ar yr awdurdodau sy'n uno, talwyr y dreth gyngor a staff awdurdodau.

"Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth i awgrymu bod rhyw fath o newid strwythurol yn angenrheidiol mewn llywodraeth leol," meddai Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

"Rydym wedi trafod cynigion y Gweinidog yn y Bil drafft a fyddai, o'u mabwysiadu, yn newid strwythur llywodraeth leol yng Nghymru yn sylweddol. Mae'n bwysig felly bod Llywodraeth Leol yn parhau i gyfrannu at ddeialog agored ac adeiladol i sicrhau bod y newidiadau hyn yn ymarferol, yn drylwyr ac yn gallu para."

Daeth ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Bil drafft i ben yn ddiweddar a bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad ar hynt y gwaith cyn diwedd y Cynulliad hwn. Y Cynulliad nesaf fydd yn gwneud unrhyw benderfyniad ar ddeddfwriaeth.

Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft (PDF, 677KB) 

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol