Mae angen gweithredu pendant gan y Llywodraeth i adfywio canol trefi, yn ôl pwyllgor y Cynulliad

Cyhoeddwyd 25/01/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mae angen gweithredu pendant gan y Llywodraeth i adfywio canol trefi, yn ôl pwyllgor y Cynulliad

25 ionawr 2012

Mae angen arweinyddiaeth gadarn gan y Gweinidogion yn Llywodraeth Cymru a pholisi cynllunio diwygiedig i adfywio rhai o ganol trefi Cymru sy’n dirywio, yn ôl adroddiad gan bwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn ôl adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes mae angen arweinyddiaeth genedlaethol amlycach i fynd i’r afael â’r heriau niferus sy’n wynebu ein prif strydoedd yng Nghymru ac y dylid cydlynu pob adnodd polisi, cynllunio ac ariannol sydd ar gael yn well er mwyn annog twf cynaliadwy ac amrywiol yng nghanol trefi Cymru.

Mae hefyd yn pwysleisio’r angen i hyrwyddo canol trefi ar lefel leol ledled Cymru, gan gynnwys rhagor o weithio mewn partneriaeth rhwng y sector preifat a’r sector cyhoeddus i sicrhau bod pob ymdrech yn cael eu cydlynu’n gryf.

Yn ystod ei ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am yr heriau anodd ac amrywiol sy’n wynebu canol trefi, gan gynnwys tystiolaeth am y gystadleuaeth gan ddatblygiadau manwerthu a swyddfeydd ar gyrion y trefi, ardrethi busnes yn codi a chostau uchel parcio yng nghanol y trefi.

Mae’r pwyllgor yn argymell y dylai panel annibynnol Llywodraeth Cymru ar ardrethi busnes ystyried newidiadau i ddeddfwriaeth ac wrth ddefnyddio pwerau disgresiwn, fel eu bod yn cyrraedd y nod o wella amrywiaeth y siopau sydd yng nghanol trefi, a’u hansawdd.

Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae canol trefi bywiog yn galon i gymunedau cynaliadwy ac yn gwbl ganolog i economi iach a llewyrchus yng Nghymru.

“Ond dangosodd ein hymchwiliad bod enghreifftiau o brif strydoedd llwm sydd ar eu gliniau bron, yn frith o adeiladau gwag ac amgylchiadau gwael ar gyfer siopa ledled Cymru.

“Un peth sy’n allweddol i fynd i’r afael â’r problemau hyn yw arweinyddiaeth gadarn ac effeithiol ar lefel Weinidogol, a rhaid ategu hyn yn lleol wedyn mewn trefi a chymunedau ledled Cymru.

“Rydym am i drefi Cymru feddu ar gynlluniau cynhwysfawr, a ddatblygwyd gan randdeiliaid lleol, sy’n cynnwys camau pendant i ymdrin â’r problemau sy’n effeithio ar ganol trefi.

“Mae gan Lywodraeth Cymru ran fawr iawn i’w chwarae i greu’r amodau cywir i ysgogi buddsoddi yn y canol trefi a rhaid i gyrff cyhoeddus, preifat a chyrff gwirfoddol weithio gyda’i gilydd yn well i sicrhau bod dyfodol sicr i’n canol trefi.”

Rhoddodd y Ffederasiwn Busnesau Bach dystiolaeth i’r ymchwiliad. Dywedodd Cadeirydd Uned Polisi’r Gymraeg y ffederasiwn, Janet Jones: “Croesawn yr adroddiad hwn heddiw am ei fod yn rhoi tystiolaeth am yr heriau sy’n wynebu strydoedd mawr yng Nghymru. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnig ffordd ymlaen i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.

“Mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn hyrwyddo busnesau bach ac mae ganddi tua 10,000 o aelodau yng Nghymru, gyda nifer ohonynt yn gweithio yn y sector manwerthu. Mae’r ffederasiwn yn cefnogi argymhellion yr adroddiad ac mae’n falch ei bod wedi gallu cyfrannu at lunio’r canfyddiadau drwy roi tystiolaeth i’r Pwyllgor.

“Mae’n gadarnhaol cael consensws o’r fath oddi wrth amrywiaeth o safbwyntiau. Yn awr, rydym am i Lywodraeth Cymru gymryd camau gweithredu cydunol. Rhaid gweithredu ar yr argymhellion er mwyn diogelu amodau masnachu cadarn ar gyfer manwerthwyr yng nghanol trefi yng Nghymru.”

Ionawr 2012 - Adroddiad Adfywio Canol Trefi  PDF 841 KB