Mae angen i bobl Cymru wybod os byddant yn derbyn band eang y genhedlaeth nesaf - neu pryd y byddant yn ei dderbyn - meddai pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 24/11/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/11/2015

 

Mae angen i bobl Cymru wybod os byddant yn derbyn band eang y genhedlaeth nesaf - neu pryd y byddant yn ei dderbyn - yn eu cartrefi a'u busnesau, yn ôl adroddiad gan bwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am weld gwell cyfathrebu gan raglen Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru ar ôl clywed tystiolaeth am wybodaeth anghyson ynghylch argaeledd, a rhwystredigaeth ymhlith cwsmeriaid.

Tra'n nodi bod cynnydd rhesymol wedi cael ei wneud gan ddeiliad y contract band eang, sef BT/Openreach, mae'r Pwyllgor hefyd yn nodi bod y dyddiad cau i gyflenwi nifer cytunedig o safleoedd â band eang cyflym wedi cael ei ymestyn gan ddwy flynedd, gydag ychydig yn unig o gosbau ariannol i'r cyflenwr.

Mae'r rhaglen Cyflymu Cymru yn werth £205 miliwn o bunnoedd mewn arian cyhoeddus gyda chytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a BT/Openreach i gyflenwi band eang y  genhedlaeth nesaf i 96% o Gymru.

"Mae'r angen i gartrefi a busnesau yng Nghymru gael mynediad at fand eang y genhedlaeth nesaf yn dod yn fwy ac yn fwy pwysig," meddai Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

"Mae gan Fand Eang y potensial i helpu busnesau mewn ardaloedd gwledig i gysylltu â gweddill y byd a manteisio ar gyfleoedd enfawr.

"Yr hyn a glywsom yn ystod ein hymchwiliad yw bod pobl yn teimlo'n rhwystredig am ba wybodaeth sydd ar gael iddynt o ran os byddant yn cael eu cysylltu, neu pryd y bydd hynny'n digwydd.

"Weithiau mae'r wybodaeth yn gwrthdaro ac mae'n creu sgil-effeithiau ar gyfer y penderfyniadau a wnânt am ble byddant yn byw a sut y gall eu busnes dyfu.

"Rydym am weld ymgyrch gyfathrebu gan Lywodraeth Cymru a chyflenwr Cyflymu Cymru, BT, sy'n llawer cliriach, er mwyn sicrhau bod gan bobl hyder yn y cynllun hwn ac yn gwybod beth i'w ddisgwyl ganddo."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 10 o argymhellion yn ei adroddiad (PDF, 365KB), gan gynnwys:

  • Mae'r Pwyllgor yn argymell bod y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhoi i'r Pwyllgor am y gwaith i wella cyfathrebu a marchnata ynghylch manteision mynediad at fand eang cyflym iawn, heb fod yn hwyrach na mis Medi 2016;
  •  Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu sicrwydd na fydd yr estyniad i'r prosiect yn arwain at oedi pellach ar gyfer adeiladau a gafodd eu cynnwys yn y contract gwreiddiol a'i bod yn parhau i fonitro cynnydd BT i sicrhau bod y prosiect yn cael ei gyflwyno o fewn yr amserlen ddiwygiedig, a;
  • Bod diweddariad yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru ar y cynnydd i gyflwyno i eiddo anodd eu cyrraedd heb fod yn hwyrach na mis Medi 2016.