Mae angen i Lywodraeth Cymru amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer amddiffyn ein hamgylchedd ar ôl Brexit

Cyhoeddwyd 02/10/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/10/2019


Dylai Llywodraeth Cymru ddangos arweinyddiaeth ac amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer sut y byddwn yn amddiffyn ein hamgylchedd yn y dyfodol, yn ôl Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol.

Ers dros 40 mlynedd, mae rôl yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn allweddol wrth helpu i fynd i'r afael â heriau amgylcheddol fel llygredd aer, dirywiad mewn bioamrywiaeth a newid hinsawdd.

Mae mwyafrif helaeth deddfau a pholisïau amgylcheddol y DU yn seiliedig ar ddeddfau'r UE. Mae hyn oherwydd fod yn rhaid i'r DU, fel Aelod-wladwriaeth, gymhwyso deddfau amgylcheddol yr UE.

Mae'r deddfau a'r polisïau hyn yn cael eu llunio gan bedair egwyddor graidd:

  • yr 'egwyddor atal';
  • yr 'egwyddor ragofal';
  • yr 'egwyddor llygrwr sy'n talu'; ac
  • yr 'egwyddor cywiro yn y ffynhonnell'.

Yn ogystal â datblygu deddfau a pholisïau amgylcheddol, mae sefydliadau'r UE yn gweithredu fel corff gwarchod i sicrhau bod Aelod-wladwriaethau, gan gynnwys y DU, yn cydymffurfio â'r deddfau hyn. Gall methu â gwneud hynny arwain at gosbau ariannol uchel i'r llywodraeth.

Wrth adael yr UE, ni fydd ei system o 'lywodraethu amgylcheddol' bellach yn gymwys i'r DU. Gan fod yr amgylchedd yn faes cyfrifoldeb datganoledig, mater i Lywodraeth Cymru fydd penderfynu a ddylid disodli'r system hon, a sut i wneud hynny.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn ystyried dull arfaethedig y Llywodraeth, sy'n cynnwys deddfu i fynd i'r afael â 'bylchau' mewn egwyddorion amgylcheddol ac mewn trefniadau llywodraethu.

"Gyda heriau amgylcheddol nawr ac yn y dyfodol ar frig yr agenda wleidyddol fyd-eang, mae'n bwysicach nag erioed bod Cymru yn parhau i chwarae ei rhan wrth amddiffyn a gwella'r amgylchedd," meddai Mike Hedges AC, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig.

"Mae aelodaeth o'r UE wedi helpu i godi safonau ac wedi sbarduno gwelliannau amgylcheddol. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau y gall Cymru adeiladu ar hyn yn llwyddiannus wedi i'r DU ymadael â'r UE.

"Er mwyn gwneud hyn, bydd angen system newydd a chadarn ar gyfer llywodraethu amgylcheddol, sy'n gallu mynd i'r afael â'r heriau amgylcheddol sydd o'n blaenau nawr ac yn y dyfodol.

"Yn ein hadroddiad, ry' ni'n nodi'n fanwl ein cynnig ni ar gyfer system lywodraethu ar ôl Brexit a fydd yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei hymrwymiad i beidio â chaniatáu dirywiad, ac yn dangos i bartneriaid byd-eang fod Cymru yn parhau i ymrwymo i amddiffyn a gwella'r amgylchedd."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 26 o argymhellion, gan gynnwys:

  • Dylai Bil Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, i fynd i'r afael â'r egwyddorion amgylcheddol a bylchau o ran llywodraethu ar ôl Brexit, gynnwys amcan trosfwaol i sicrhau lefel uchel o ddiogelu'r amgylchedd y mae'r egwyddorion amgylcheddol wedi'u fframio oddi mewn iddo. Dylid rhestru pob un o'r pedair egwyddor amgylcheddol graidd yn y Bil, yn ogystal ag egwyddor newydd 'peidio â chaniatáu dirywiad'.
  • Rhaid i'r corff llywodraethu amgylcheddol newydd fod yn gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Rhaid iddo gael ei benodi gan y Cynulliad Cenedlaethol a bod yn atebol iddo, cael ei archwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, a chael ei ariannu trwy Gronfa Gyfunol Cymru.
  • Rhaid i'r corff llywodraethu newydd allu derbyn cwynion o sylwedd gan ddinasyddion am dorri cyfraith amgylcheddol, neu achosion posibl o dorri cyfraith amgylcheddol.
  • Dylai Llywodraeth Cymru egluro pa ofynion monitro ac adrodd, y tu hwnt i'r rhai sydd wedi'u cynnwys yng nghyfraith bresennol Cymru, fydd ar waith ar ôl Brexit i gefnogi goruchwylio a chraffu effeithiol ar weithredu deddfwriaeth amgylcheddol.
  • Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu cynigion ar gyfer system ddirwyo i roi cymorth i orfodi cyfraith amgylcheddol yn effeithiol ar ôl Brexit.

Bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i drafod yr adroddiad hwn.

Adroddiad Egwyddorion a threfniadau llywodraethu amgylcheddolar ôl Brexit.